Rhufeiniaid 8:24-25
Rhufeiniaid 8:24-25 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Am ein bod wedi’n hachub gallwn edrych ymlaen at hyn yn hyderus. Does neb yn edrych ymlaen at rywbeth sydd ganddo’n barod! Ond wrth edrych ymlaen at beth sydd ddim yma eto, rhaid disgwyl yn amyneddgar amdano.
Rhufeiniaid 8:24-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd yn y gobaith hwn y cawsom ein hachub. Ond nid gobaith mo'r gobaith sy'n gweld. Pwy sy'n gobeithio am yr hyn y mae'n ei weld? Yr hyn nad ydym yn ei weld yw gwrthrych gobaith, ac felly yr ydym yn dal i aros amdano mewn amynedd.
Rhufeiniaid 8:24-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys trwy obaith y’n hiachawyd. Eithr y gobaith a welir, nid yw obaith: oblegid y peth y mae un yn ei weled, i ba beth y mae eto yn ei obeithio? Ond os ydym ni yn gobeithio’r hyn nid ŷm yn ei weled, yr ydym trwy amynedd yn disgwyl amdano.