Rhufeiniaid 8:22-25
Rhufeiniaid 8:22-25 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dŷn ni’n gwybod fod y greadigaeth gyfan yn griddfan fel gwraig sydd mewn poen wrth eni plentyn. Ac nid dim ond y greadigaeth sy’n griddfan, ond ni hefyd sy’n Gristnogion, ac wedi derbyn yr Ysbryd Glân fel rhagflas o beth sydd i ddod. Dŷn ni hefyd yn griddfan o’n mewn wrth ddisgwyl i’r diwrnod ddod pan fydd Duw yn ein mabwysiadu ni ac y bydd ein corff yn cael ei ollwng yn rhydd! Am ein bod wedi’n hachub gallwn edrych ymlaen at hyn yn hyderus. Does neb yn edrych ymlaen at rywbeth sydd ganddo’n barod! Ond wrth edrych ymlaen at beth sydd ddim yma eto, rhaid disgwyl yn amyneddgar amdano.
Rhufeiniaid 8:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd fe wyddom fod yr holl greadigaeth yn ochneidio, ac mewn gwewyr drwyddi, hyd heddiw. Ac nid y greadigaeth yn unig, ond nyni sydd â blaenffrwyth yr Ysbryd gennym, yr ydym ninnau'n ochneidio ynom ein hunain wrth ddisgwyl ein mabwysiad yn blant Duw, sef rhyddhad ein corff o gaethiwed. Oherwydd yn y gobaith hwn y cawsom ein hachub. Ond nid gobaith mo'r gobaith sy'n gweld. Pwy sy'n gobeithio am yr hyn y mae'n ei weld? Yr hyn nad ydym yn ei weld yw gwrthrych gobaith, ac felly yr ydym yn dal i aros amdano mewn amynedd.
Rhufeiniaid 8:22-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys ni a wyddom fod pob creadur yn cydocheneidio, ac yn cydofidio hyd y pryd hwn. Ac nid yn unig y creadur, ond ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaenffrwyth yr Ysbryd: yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan ddisgwyl y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corff. Canys trwy obaith y’n hiachawyd. Eithr y gobaith a welir, nid yw obaith: oblegid y peth y mae un yn ei weled, i ba beth y mae eto yn ei obeithio? Ond os ydym ni yn gobeithio’r hyn nid ŷm yn ei weled, yr ydym trwy amynedd yn disgwyl amdano.