Rhufeiniaid 8:18-30
Rhufeiniaid 8:18-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr wyf fi'n cyfrif nad yw dioddefiadau'r presennol i'w cymharu â'r gogoniant sydd ar gael ei ddatguddio i ni. Yn wir, y mae'r greadigaeth yn disgwyl yn daer am i blant Duw gael eu datguddio. Oherwydd darostyngwyd y greadigaeth i oferedd, nid o'i dewis ei hun, ond trwy'r hwn a'i darostyngodd, yn y gobaith y câi'r greadigaeth hithau ei rhyddhau o gaethiwed a llygredigaeth, a'i dwyn i ryddid a gogoniant plant Duw. Oherwydd fe wyddom fod yr holl greadigaeth yn ochneidio, ac mewn gwewyr drwyddi, hyd heddiw. Ac nid y greadigaeth yn unig, ond nyni sydd â blaenffrwyth yr Ysbryd gennym, yr ydym ninnau'n ochneidio ynom ein hunain wrth ddisgwyl ein mabwysiad yn blant Duw, sef rhyddhad ein corff o gaethiwed. Oherwydd yn y gobaith hwn y cawsom ein hachub. Ond nid gobaith mo'r gobaith sy'n gweld. Pwy sy'n gobeithio am yr hyn y mae'n ei weld? Yr hyn nad ydym yn ei weld yw gwrthrych gobaith, ac felly yr ydym yn dal i aros amdano mewn amynedd. Yn yr un modd, y mae'r Ysbryd yn ein cynorthwyo yn ein gwendid. Oherwydd ni wyddom ni sut y dylem weddïo, ond y mae'r Ysbryd ei hun yn ymbil trosom ag ocheneidiau y tu hwnt i eiriau, ac y mae Duw, sy'n chwilio calonnau dynol, yn deall bwriad yr Ysbryd, mai ymbil y mae tros y saint yn ôl ewyllys Duw. Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda'r rhai sy'n ei garu, y rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei fwriad. Oherwydd, cyn eu bod hwy, fe'u hadnabu, a'u rhagordeinio i fod yn unffurf ac unwedd â'i Fab, fel mai cyntafanedig fyddai ef ymhlith pobl lawer. A'r rhai a ragordeiniodd, fe'u galwodd hefyd; a'r rhai a alwodd, fe'u cyfiawnhaodd hefyd; a'r rhai a gyfiawnhaodd, fe'u gogoneddodd hefyd.
Rhufeiniaid 8:18-30 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i’n reit siŵr bod beth dŷn ni’n ei ddioddef ar hyn o bryd yn ddim o’i gymharu â’r ysblander gwych fyddwn ni’n ei brofi maes o law. Ydy, mae’r greadigaeth i gyd yn edrych ymlaen yn frwd at y dydd pan fydd Duw yn dangos pwy sy’n blant iddo go iawn. Roedd y greadigaeth wedi cael ei chondemnio i wagedd (dim ei dewis hi oedd hynny – cafodd ei orfodi arni). Ond mae gobaith i edrych ymlaen ato: mae’r greadigaeth hefyd yn mynd i gael ei gollwng yn rhydd! Fydd hi ddim yn gaeth i lygredd ddim mwy. Bydd yn rhannu’r rhyddid bendigedig fydd Duw’n ei roi i’w blant. Dŷn ni’n gwybod fod y greadigaeth gyfan yn griddfan fel gwraig sydd mewn poen wrth eni plentyn. Ac nid dim ond y greadigaeth sy’n griddfan, ond ni hefyd sy’n Gristnogion, ac wedi derbyn yr Ysbryd Glân fel rhagflas o beth sydd i ddod. Dŷn ni hefyd yn griddfan o’n mewn wrth ddisgwyl i’r diwrnod ddod pan fydd Duw yn ein mabwysiadu ni ac y bydd ein corff yn cael ei ollwng yn rhydd! Am ein bod wedi’n hachub gallwn edrych ymlaen at hyn yn hyderus. Does neb yn edrych ymlaen at rywbeth sydd ganddo’n barod! Ond wrth edrych ymlaen at beth sydd ddim yma eto, rhaid disgwyl yn amyneddgar amdano. Ac mae’r Ysbryd yn ein helpu ni hefyd yn ein cyflwr gwan presennol. Wyddon ni ddim yn iawn beth i’w weddïo, ond mae’r Ysbryd ei hun yn gofyn ar ein rhan ni. Mae yntau’n griddfan – dydy geiriau ddim yn ddigon. Ond mae Duw yn gwybod beth sydd yng nghalon pawb, ac mae’n gwybod beth ydy bwriad yr Ysbryd. Mae’r Ysbryd yn gofyn i Dduw am y pethau mae Duw yn awyddus i’w rhoi i’w blant. Dŷn ni’n gwybod fod Duw’n trefnu popeth er lles y rhai sy’n ei garu – sef y rhai mae wedi’u galw i gyflawni ei fwriadau. Roedd yn gwybod pwy fyddai’n bobl iddo, ac roedd wedi’u dewis ymlaen llaw i fod yn debyg i’w Fab. (Y Mab, sef y Meseia Iesu, ydy’r plentyn hynaf, ac mae ganddo lawer iawn o frodyr a chwiorydd.) Ar ôl eu dewis ymlaen llaw, galwodd nhw ato’i hun. Mae’n eu derbyn nhw i berthynas iawn ag e’i hun, ac wedyn yn rhannu ei ysblander gyda nhw.
Rhufeiniaid 8:18-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oblegid yr ydwyf yn cyfrif, nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, yn haeddu eu cyffelybu i’r gogoniant a ddatguddir i ni. Canys awyddfryd y creadur sydd yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw. Canys y creadur sydd wedi ei ddarostwng i oferedd; nid o’i fodd, eithr oblegid yr hwn a’i darostyngodd: Dan obaith y rhyddheir y creadur yntau hefyd, o gaethiwed llygredigaeth, i ryddid gogoniant plant Duw. Canys ni a wyddom fod pob creadur yn cydocheneidio, ac yn cydofidio hyd y pryd hwn. Ac nid yn unig y creadur, ond ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaenffrwyth yr Ysbryd: yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan ddisgwyl y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corff. Canys trwy obaith y’n hiachawyd. Eithr y gobaith a welir, nid yw obaith: oblegid y peth y mae un yn ei weled, i ba beth y mae eto yn ei obeithio? Ond os ydym ni yn gobeithio’r hyn nid ŷm yn ei weled, yr ydym trwy amynedd yn disgwyl amdano. A’r un ffunud y mae’r Ysbryd hefyd yn cynorthwyo ein gwendid ni. Canys ni wyddom ni beth a weddïom, megis y dylem: eithr y mae’r Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ni ag ocheneidiau anhraethadwy. A’r hwn sydd yn chwilio’r calonnau, a ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd; canys y mae efe yn ôl ewyllys Duw yn erfyn dros y saint. Ac ni a wyddom fod pob peth yn cydweithio er daioni i’r rhai sydd yn caru Duw; sef i’r rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei arfaeth ef. Oblegid y rhai a ragwybu, a ragluniodd efe hefyd i fod yn un ffurf â delw ei Fab ef; fel y byddai efe yn gyntaf-anedig ymhlith brodyr lawer. A’r rhai a ragluniodd efe, y rhai hynny hefyd a alwodd efe; a’r rhai a alwodd efe, y rhai hynny hefyd a gyfiawnhaodd efe; a’r rhai a gyfiawnhaodd efe, y rhai hynny hefyd a ogoneddodd efe.