Rhufeiniaid 8:18-24
Rhufeiniaid 8:18-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr wyf fi'n cyfrif nad yw dioddefiadau'r presennol i'w cymharu â'r gogoniant sydd ar gael ei ddatguddio i ni. Yn wir, y mae'r greadigaeth yn disgwyl yn daer am i blant Duw gael eu datguddio. Oherwydd darostyngwyd y greadigaeth i oferedd, nid o'i dewis ei hun, ond trwy'r hwn a'i darostyngodd, yn y gobaith y câi'r greadigaeth hithau ei rhyddhau o gaethiwed a llygredigaeth, a'i dwyn i ryddid a gogoniant plant Duw. Oherwydd fe wyddom fod yr holl greadigaeth yn ochneidio, ac mewn gwewyr drwyddi, hyd heddiw. Ac nid y greadigaeth yn unig, ond nyni sydd â blaenffrwyth yr Ysbryd gennym, yr ydym ninnau'n ochneidio ynom ein hunain wrth ddisgwyl ein mabwysiad yn blant Duw, sef rhyddhad ein corff o gaethiwed. Oherwydd yn y gobaith hwn y cawsom ein hachub. Ond nid gobaith mo'r gobaith sy'n gweld. Pwy sy'n gobeithio am yr hyn y mae'n ei weld?
Rhufeiniaid 8:18-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oblegid yr ydwyf yn cyfrif, nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, yn haeddu eu cyffelybu i’r gogoniant a ddatguddir i ni. Canys awyddfryd y creadur sydd yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw. Canys y creadur sydd wedi ei ddarostwng i oferedd; nid o’i fodd, eithr oblegid yr hwn a’i darostyngodd: Dan obaith y rhyddheir y creadur yntau hefyd, o gaethiwed llygredigaeth, i ryddid gogoniant plant Duw. Canys ni a wyddom fod pob creadur yn cydocheneidio, ac yn cydofidio hyd y pryd hwn. Ac nid yn unig y creadur, ond ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaenffrwyth yr Ysbryd: yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan ddisgwyl y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corff. Canys trwy obaith y’n hiachawyd. Eithr y gobaith a welir, nid yw obaith: oblegid y peth y mae un yn ei weled, i ba beth y mae eto yn ei obeithio?