Rhufeiniaid 8:17-18
Rhufeiniaid 8:17-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ac os ydyn ni’n blant iddo, byddwn ninnau hefyd yn derbyn yr holl bethau da mae’n ei roi i’w Fab, y Meseia. Ond cofiwch wedyn, os ydyn ni’n cael rhannu yn ei ysblander mae’n rhaid i ni fod yn barod i ddioddef gydag e hefyd. Dw i’n reit siŵr bod beth dŷn ni’n ei ddioddef ar hyn o bryd yn ddim o’i gymharu â’r ysblander gwych fyddwn ni’n ei brofi maes o law.
Rhufeiniaid 8:17-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac os plant, etifeddion hefyd, etifeddion Duw a chydetifeddion â Christ, os yn wir yr ydym yn cyfranogi o'i ddioddefaint ef er mwyn cyfranogi o'i ogoniant hefyd. Yr wyf fi'n cyfrif nad yw dioddefiadau'r presennol i'w cymharu â'r gogoniant sydd ar gael ei ddatguddio i ni.
Rhufeiniaid 8:17-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac os plant, etifeddion hefyd; sef etifeddion i Dduw, a chyd-etifeddion â Christ: os ydym yn cyd-ddioddef gydag ef, fel y’n cydogonedder hefyd. Oblegid yr ydwyf yn cyfrif, nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, yn haeddu eu cyffelybu i’r gogoniant a ddatguddir i ni.