Rhufeiniaid 8:15-16
Rhufeiniaid 8:15-16 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dydy’r Ysbryd Glân dŷn ni wedi’i dderbyn ddim yn ein gwneud yn gaethweision ofnus unwaith eto! Mae’n ein mabwysiadu ni yn blant i Dduw, a gallwn weiddi arno’n llawen, “ Abba ! Dad!” Ydy, mae’r Ysbryd yn dangos yn glir i ni ein bod ni’n blant i Dduw.
Rhufeiniaid 8:15-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd nid ysbryd caethiwed sydd unwaith eto'n peri ofn yr ydych wedi ei dderbyn, ond Ysbryd mabwysiad, yr ydym trwyddo yn llefain, “Abba! Dad!” Y mae'r Ysbryd ei hun yn cyd-dystiolaethu â'n hysbryd ni, ein bod yn blant i Dduw.
Rhufeiniaid 8:15-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys ni dderbyniasoch ysbryd caethiwed drachefn i beri ofn; eithr derbyniasoch Ysbryd mabwysiad, trwy’r hwn yr ydym yn llefain, Abba, Dad. Y mae’r Ysbryd hwn yn cyd-dystiolaethu â’n hysbryd ni, ein bod ni yn blant i Dduw