Rhufeiniaid 8:1-5
Rhufeiniaid 8:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond dydy’r rhai sy’n perthyn i’r Meseia Iesu ddim yn mynd i gael eu cosbi! O achos beth wnaeth y Meseia Iesu mae’r Ysbryd Glân, sy’n rhoi bywyd, wedi fy ngollwng i’n rhydd o afael y pechod sy’n arwain i farwolaeth. Doedd y Gyfraith Iddewig ddim yn gallu gwneud hynny, am fod y natur ddynol mor wan. Ond dyma Duw yn anfon ei Fab ei hun i fod yn berson dynol yr un fath â ni bechaduriaid, er mwyn iddo orchfygu’r pechod oedd ar waith yn y natur ddynol drwy roi ei fywyd yn aberth dros bechod. Gwnaeth hyn er mwyn i ni wneud beth mae Cyfraith Duw yn ei ofyn. Dŷn ni bellach yn byw fel mae’r Ysbryd Glân eisiau, dim fel mae ein natur bechadurus eisiau. Mae’r rhai sy’n cael eu rheoli gan y natur bechadurus yn byw i’r hunan, ond mae’r rhai sydd dan reolaeth yr Ysbryd Glân yn byw i wneud beth mae’r Ysbryd eisiau.
Rhufeiniaid 8:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn awr, felly, nid yw'r rhai sydd yng Nghrist Iesu dan gollfarn o unrhyw fath. Oherwydd yng Nghrist Iesu y mae cyfraith yr Ysbryd, sy'n rhoi bywyd, wedi dy ryddhau o afael cyfraith pechod a marwolaeth. Yr hyn oedd y tu hwnt i allu'r Gyfraith, yn ei gwendid dan gyfyngiadau'r cnawd, y mae Duw wedi ei gyflawni. Wrth anfon ei Fab ei hun, mewn ffurf debyg i'n cnawd pechadurus ni, i ddelio â phechod, y mae wedi collfarnu pechod yn y cnawd. Gwnaeth hyn er mwyn i ofynion cyfiawn y Gyfraith gael eu cyflawni ynom ni, sy'n byw, nid ar wastad y cnawd, ond ar wastad yr Ysbryd. Oherwydd y sawl sydd â'u bodolaeth ar wastad y cnawd, ar bethau'r cnawd y mae eu bryd; ond y sawl sydd ar wastad yr Ysbryd, ar bethau'r Ysbryd y mae eu bryd.
Rhufeiniaid 8:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Nid oes gan hynny yn awr ddim damnedigaeth i’r rhai sydd yng Nghrist Iesu, y rhai sydd yn rhodio nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd. Canys deddf Ysbryd y bywyd yng Nghrist Iesu a’m rhyddhaodd i oddi wrth ddeddf pechod a marwolaeth. Canys yr hyn ni allai’r ddeddf, oherwydd ei bod yn wan trwy y cnawd, Duw a ddanfonodd ei Fab ei hun yng nghyffelybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod a gondemniodd bechod yn y cnawd: Fel y cyflawnid cyfiawnder y ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio, nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd. Canys y rhai sydd yn ôl y cnawd, am bethau’r cnawd y maent yn synio: eithr y rhai sydd yn ôl yr Ysbryd, am bethau’r Ysbryd.