Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 8:1-11

Rhufeiniaid 8:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ond dydy’r rhai sy’n perthyn i’r Meseia Iesu ddim yn mynd i gael eu cosbi! O achos beth wnaeth y Meseia Iesu mae’r Ysbryd Glân, sy’n rhoi bywyd, wedi fy ngollwng i’n rhydd o afael y pechod sy’n arwain i farwolaeth. Doedd y Gyfraith Iddewig ddim yn gallu gwneud hynny, am fod y natur ddynol mor wan. Ond dyma Duw yn anfon ei Fab ei hun i fod yn berson dynol yr un fath â ni bechaduriaid, er mwyn iddo orchfygu’r pechod oedd ar waith yn y natur ddynol drwy roi ei fywyd yn aberth dros bechod. Gwnaeth hyn er mwyn i ni wneud beth mae Cyfraith Duw yn ei ofyn. Dŷn ni bellach yn byw fel mae’r Ysbryd Glân eisiau, dim fel mae ein natur bechadurus eisiau. Mae’r rhai sy’n cael eu rheoli gan y natur bechadurus yn byw i’r hunan, ond mae’r rhai sydd dan reolaeth yr Ysbryd Glân yn byw i wneud beth mae’r Ysbryd eisiau. Os mai’r hunan sy’n eich rheoli chi, byddwch chi’n marw. Ond os ydy’r Ysbryd Glân yn eich rheoli chi, mae gynnoch chi fywyd a heddwch perffaith gyda Duw. Mae’r natur bechadurus yn ymladd yn erbyn Duw. Does ganddi ddim eisiau gwneud beth mae Cyfraith Duw’n ei ofyn – yn wir, dydy hi ddim yn gallu! A dydy’r rhai sy’n cael eu rheoli gan y natur bechadurus ddim yn gallu plesio Duw. Ond dim yr hunan sy’n eich rheoli chi. Mae Ysbryd Duw wedi dod i fyw ynoch chi, felly yr Ysbryd sy’n eich rheoli chi. Os ydy Ysbryd y Meseia ddim wedi cael gafael ynoch chi, dych chi ddim yn bobl y Meseia o gwbl. Ond os ydy’r Meseia ynoch chi, er bod y corff yn mynd i farw o achos pechod, mae’r Ysbryd Glân yn rhoi bywyd tragwyddol i chi, am fod gynnoch chi berthynas iawn gyda Duw. Ac os ydy Ysbryd yr Un gododd Iesu yn ôl yn fyw wedi dod i fyw ynoch chi, bydd e’n rhoi bywyd newydd i’ch cyrff marwol chi hefyd. Dyna mae’r Ysbryd Glân sydd wedi dod i fyw ynoch chi yn ei wneud.

Rhufeiniaid 8:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yn awr, felly, nid yw'r rhai sydd yng Nghrist Iesu dan gollfarn o unrhyw fath. Oherwydd yng Nghrist Iesu y mae cyfraith yr Ysbryd, sy'n rhoi bywyd, wedi dy ryddhau o afael cyfraith pechod a marwolaeth. Yr hyn oedd y tu hwnt i allu'r Gyfraith, yn ei gwendid dan gyfyngiadau'r cnawd, y mae Duw wedi ei gyflawni. Wrth anfon ei Fab ei hun, mewn ffurf debyg i'n cnawd pechadurus ni, i ddelio â phechod, y mae wedi collfarnu pechod yn y cnawd. Gwnaeth hyn er mwyn i ofynion cyfiawn y Gyfraith gael eu cyflawni ynom ni, sy'n byw, nid ar wastad y cnawd, ond ar wastad yr Ysbryd. Oherwydd y sawl sydd â'u bodolaeth ar wastad y cnawd, ar bethau'r cnawd y mae eu bryd; ond y sawl sydd ar wastad yr Ysbryd, ar bethau'r Ysbryd y mae eu bryd. Yn wir, y mae bod â'n bryd ar y cnawd yn farwolaeth, ond y mae bod â'n bryd ar yr Ysbryd yn fywyd a heddwch. Oherwydd y mae bod â'n bryd ar y cnawd yn elyniaeth tuag at Dduw; nid yw hynny, ac ni all fod, yn ddarostyngiad i Gyfraith Duw. Ni all y sawl sy'n byw ym myd y cnawd foddhau Duw. Ond nid ym myd y cnawd yr ydych chwi, ond yn yr Ysbryd, gan fod Ysbryd Duw yn cartrefu ynoch chwi. Pwy bynnag sydd heb Ysbryd Crist, nid eiddo Crist ydyw. Ond os yw Crist ynoch chwi, y mae'r corff yn farw o achos pechod, ond y mae'r Ysbryd yn fywyd ichwi o achos eich cyfiawnhad. Os yw Ysbryd yr hwn a gyfododd Iesu oddi wrth y meirw yn cartrefu ynoch, bydd yr hwn a gyfododd Grist oddi wrth y meirw yn rhoi bywyd newydd hefyd i'ch cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd, sy'n ymgartrefu ynoch chwi.