Rhufeiniaid 7:15-20
Rhufeiniaid 7:15-20 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dw i ddim yn deall fy hun o gwbl. Yn lle gwneud beth dw i eisiau ei wneud, dw i’n cael fy hun yn gwneud beth dw i’n ei gasáu! Ac os dw i’n gwybod mod i’n gwneud y peth anghywir, dw i’n cytuno fod Cyfraith Duw yn dda. Mae fel taswn i fy hun wedi colli rheolaeth, a’r pechod sydd y tu mewn i mi wedi cymryd drosodd. Dw i’n gwybod yn iawn pa mor ddrwg ydw i y tu mewn! Yr hunan ydy popeth! Dw i eisiau byw yn dda, ond dw i’n methu! Yn lle gwneud y pethau da dw i eisiau eu gwneud, dw i’n dal ati i wneud y pethau drwg dw i ddim eisiau eu gwneud. Ac os dw i’n gwneud beth dw i ddim eisiau ei wneud, dim fi sy’n rheoli bellach – y pechod y tu mewn i mi sydd wedi cymryd drosodd.
Rhufeiniaid 7:15-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ni allaf ddeall fy ngweithredoedd, oherwydd yr wyf yn gwneud, nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio ond y peth yr wyf yn ei gasáu. Ac os wyf yn gwneud yr union beth sy'n groes i'm hewyllys, yna yr wyf yn cytuno â'r Gyfraith, ac yn cydnabod ei bod yn dda. Ond y gwir yw, nid myfi sy'n gweithredu mwyach, ond pechod, sy'n cartrefu ynof fi, oherwydd mi wn nad oes dim da yn cartrefu ynof fi, hynny yw, yn fy nghnawd. Y mae'r ewyllys i wneud daioni gennyf; y peth nad yw gennyf yw'r gweithredu. Yr wyf yn cyflawni, nid y daioni yr wyf yn ei ewyllysio ond yr union ddrygioni sy'n groes i'm hewyllys. Ond os wyf yn gwneud yr union beth sy'n groes i'm hewyllys, yna nid myfi sy'n gweithredu mwyach, ond y pechod sy'n cartrefu ynof fi.
Rhufeiniaid 7:15-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, nid yw fodlon gennyf: canys nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur; eithr y peth sydd gas gennyf, hyn yr ydwyf yn ei wneuthur. Ac os y peth nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur, yr wyf fi yn cydsynio â’r ddeddf mai da ydyw. Felly yr awron nid myfi sydd mwy yn gwneuthur hynny, eithr y pechod yr hwn sydd yn trigo ynof fi. Canys mi a wn nad oes ynof fi (hynny yw, yn fy nghnawd i,) ddim da yn trigo: oblegid yr ewyllysio sydd barod gennyf; eithr cwblhau’r hyn sydd dda, nid wyf yn medru arno. Canys nid wyf yn gwneuthur y peth da yr wyf yn ei ewyllysio; ond y drwg yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur. Ac os ydwyf fi yn gwneuthur y peth nid wyf yn ei ewyllysio, nid myfi mwyach sydd yn ei wneuthur, ond y pechod sydd yn trigo ynof fi.