Rhufeiniaid 7:1-6
Rhufeiniaid 7:1-6 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Frodyr a chwiorydd, dych chi’n bobl sy’n gyfarwydd â Chyfraith Duw, felly mae’n rhaid eich bod chi’n deall cymaint â hyn: dydy’r Gyfraith ddim ond yn cyfri pan mae rhywun yn dal yn fyw. Er enghraifft, mae Cyfraith Duw yn dweud fod gwraig briod i aros yn ffyddlon i’w gŵr tra mae’r gŵr hwnnw’n dal yn fyw. Ond, os ydy’r gŵr yn marw, dydy’r rheol ddim yn cyfri ddim mwy. Mae hyn yn golygu, os ydy gwraig yn gadael ei gŵr a mynd i fyw gyda dyn arall pan mae ei gŵr hi’n dal yn fyw, mae hi’n godinebu. Ond os ydy ei gŵr hi wedi marw, mae’r sefyllfa’n wahanol. Mae ganddi hi hawl i briodi dyn arall wedyn. Dyma beth dw i’n ddweud, ffrindiau – drwy farwolaeth y Meseia ar y groes dych chi hefyd wedi ‘marw’ yn eich perthynas â’r Gyfraith. Bellach dych chi’n perthyn i un arall, sef i’r un gafodd ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw. Felly dylai pobl weld ffrwyth hynny yn eich bywydau chi – ffrwyth fydd yn anrhydeddu Duw. Pan oedd yr hen natur ddrwg yn ein rheoli ni, roedd Cyfraith Duw yn dangos y nwydau pechadurus hynny oedd ar waith yn ein bywydau ni, a’r canlyniad oedd marwolaeth. Ond bellach, dydy’r rheol yna ddim yn cyfrif ddim mwy. Dŷn ni wedi marw i beth oedd yn ein caethiwo ni o’r blaen. Dŷn ni’n rhydd i wasanaethu Duw yn ffordd newydd yr Ysbryd, ddim yn yr hen ffordd o geisio cadw at lythyren y ddeddf.
Rhufeiniaid 7:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A ydych heb wybod, gyfeillion,—ac yr wyf yn siarad â rhai sy'n gwybod y Gyfraith—fod gan gyfraith awdurdod dros rywun cyhyd ag y bydd yn fyw? Er enghraifft, y mae gwraig briod wedi ei rhwymo gan y gyfraith wrth ei gŵr tra bydd ef yn fyw. Ond os bydd y gŵr farw, y mae hi wedi ei rhyddhau o'i rhwymau cyfreithiol wrtho. Felly, os bydd iddi, yn ystod bywyd ei gŵr, ddod yn eiddo i ddyn arall, godinebwraig fydd yr enw arni. Ond os bydd y gŵr farw, y mae hi'n rhydd o'r gyfraith hon, ac ni bydd yn odinebwraig wrth ddod yn eiddo i ddyn arall. Ac felly, fy nghyfeillion, yr ydych chwi hefyd, trwy gorff Crist, wedi eich gwneud yn farw mewn perthynas â'r Gyfraith, er mwyn i chwi ddod yn eiddo i rywun arall, sef yr un a gyfodwyd oddi wrth y meirw, er mwyn i ni ddwyn ffrwyth i Dduw. Pan oeddem yn byw ym myd y cnawd, yr oedd y nwydau pechadurus, a ysgogir gan y Gyfraith, ar waith yn ein cyneddfau corfforol, yn peri i ni ddwyn ffrwyth i farwolaeth. Ond yn awr, gan ein bod wedi marw i'r Gyfraith oedd yn ein dal yn gaeth, fe'n rhyddhawyd o'i rhwymau, i wasanaethu ein Meistr yn ffordd newydd yr Ysbryd, ac nid yn hen ffordd cyfraith ysgrifenedig.
Rhufeiniaid 7:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oni wyddoch chwi, frodyr, (canys wrth y rhai sydd yn gwybod y ddeddf yr wyf yn dywedyd,) fod y ddeddf yn arglwyddiaethu ar ddyn tra fyddo efe byw? Canys y wraig y mae iddi ŵr, sydd yn rhwym wrth y ddeddf i’r gŵr, tra fyddo efe byw: ond o bydd marw y gŵr, hi a ryddhawyd oddi wrth ddeddf y gŵr. Ac felly, os a’r gŵr yn fyw, y bydd hi yn eiddo gŵr arall, hi a elwir yn odinebus: eithr os marw fydd ei gŵr hi, y mae hi yn rhydd oddi wrth y ddeddf; fel nad yw hi odinebus, er bod yn eiddo gŵr arall. Ac felly chwithau, fy mrodyr, ydych wedi meirw i’r ddeddf trwy gorff Crist; fel y byddech eiddo un arall, sef eiddo’r hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygem ffrwyth i Dduw. Canys pan oeddem yn y cnawd, gwyniau pechodau, y rhai oedd trwy’r ddeddf, oedd yn gweithio yn ein haelodau ni, i ddwyn ffrwyth i farwolaeth. Eithr yn awr y rhyddhawyd ni oddi wrth y ddeddf, wedi ein meirw i’r peth y’n hatelid; fel y gwasanaethem mewn newydd-deb ysbryd, ac nid yn hender y llythyren.