Rhufeiniaid 7:1-3
Rhufeiniaid 7:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Frodyr a chwiorydd, dych chi’n bobl sy’n gyfarwydd â Chyfraith Duw, felly mae’n rhaid eich bod chi’n deall cymaint â hyn: dydy’r Gyfraith ddim ond yn cyfri pan mae rhywun yn dal yn fyw. Er enghraifft, mae Cyfraith Duw yn dweud fod gwraig briod i aros yn ffyddlon i’w gŵr tra mae’r gŵr hwnnw’n dal yn fyw. Ond, os ydy’r gŵr yn marw, dydy’r rheol ddim yn cyfri ddim mwy. Mae hyn yn golygu, os ydy gwraig yn gadael ei gŵr a mynd i fyw gyda dyn arall pan mae ei gŵr hi’n dal yn fyw, mae hi’n godinebu. Ond os ydy ei gŵr hi wedi marw, mae’r sefyllfa’n wahanol. Mae ganddi hi hawl i briodi dyn arall wedyn.
Rhufeiniaid 7:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A ydych heb wybod, gyfeillion,—ac yr wyf yn siarad â rhai sy'n gwybod y Gyfraith—fod gan gyfraith awdurdod dros rywun cyhyd ag y bydd yn fyw? Er enghraifft, y mae gwraig briod wedi ei rhwymo gan y gyfraith wrth ei gŵr tra bydd ef yn fyw. Ond os bydd y gŵr farw, y mae hi wedi ei rhyddhau o'i rhwymau cyfreithiol wrtho. Felly, os bydd iddi, yn ystod bywyd ei gŵr, ddod yn eiddo i ddyn arall, godinebwraig fydd yr enw arni. Ond os bydd y gŵr farw, y mae hi'n rhydd o'r gyfraith hon, ac ni bydd yn odinebwraig wrth ddod yn eiddo i ddyn arall.
Rhufeiniaid 7:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oni wyddoch chwi, frodyr, (canys wrth y rhai sydd yn gwybod y ddeddf yr wyf yn dywedyd,) fod y ddeddf yn arglwyddiaethu ar ddyn tra fyddo efe byw? Canys y wraig y mae iddi ŵr, sydd yn rhwym wrth y ddeddf i’r gŵr, tra fyddo efe byw: ond o bydd marw y gŵr, hi a ryddhawyd oddi wrth ddeddf y gŵr. Ac felly, os a’r gŵr yn fyw, y bydd hi yn eiddo gŵr arall, hi a elwir yn odinebus: eithr os marw fydd ei gŵr hi, y mae hi yn rhydd oddi wrth y ddeddf; fel nad yw hi odinebus, er bod yn eiddo gŵr arall.