Rhufeiniaid 6:22-23
Rhufeiniaid 6:22-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond nawr dych chi’n rhydd o afael pechod ac wedi dechrau gwasanaethu Duw. Canlyniad hynny ydy’r bywyd glân sy’n arwain yn y pen draw i fywyd tragwyddol. Marwolaeth ydy’r cyflog mae pechod yn ei dalu, ond mae Duw yn rhoi bywyd tragwyddol yn rhad ac am ddim i chi, o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia.
Rhufeiniaid 6:22-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond yn awr yr ydych wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, a'ch gwneud yn gaethion i Dduw, ac y mae ffrwyth hyn yn eich meddiant, sef bywyd sanctaidd, a'r diwedd fydd bywyd tragwyddol. Y mae pechod yn talu cyflog, sef marwolaeth; ond rhoi yn rhad y mae Duw, rhoi bywyd tragwyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Rhufeiniaid 6:22-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yr awr hon, wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, a’ch gwneuthur yn weision i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a’r diwedd yn fywyd tragwyddol. Canys cyflog pechod yw marwolaeth; eithr dawn Duw yw bywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.