Rhufeiniaid 5:2-4
Rhufeiniaid 5:2-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wrth gredu dŷn ni eisoes wedi dod i brofi haelioni Duw, a gallwn edrych ymlaen yn llawen i gael rhannu yn ei ysblander. A dŷn ni’n gallu bod yn llawen hyd yn oed pan dŷn ni’n dioddef, am ein bod ni’n gwybod fod dioddefaint yn rhoi’r nerth i ni ddal ati. Mae’r gallu i ddal ati yn cryfhau ein cymeriad ni, a dyna sy’n rhoi i ni’r gobaith hyderus sydd gynnon ni.
Rhufeiniaid 5:2-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Trwyddo ef, yn wir, cawsom ffordd, trwy ffydd, i ddod i'r gras hwn yr ydym yn sefyll ynddo. Yr ydym hefyd yn gorfoleddu yn y gobaith y cawn gyfranogi yng ngogoniant Duw. Heblaw hynny, yr ydym hyd yn oed yn gorfoleddu yn ein gorthrymderau, oherwydd fe wyddom mai o orthrymder y daw'r gallu i ymddál, ac o'r gallu i ymddál y daw rhuddin cymeriad, ac o gymeriad y daw gobaith.
Rhufeiniaid 5:2-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Trwy yr hwn hefyd y cawsom ddyfodfa trwy ffydd i’r gras hwn, yn yr hwn yr ydym yn sefyll ac yn gorfoleddu dan obaith gogoniant Duw. Ac nid felly yn unig, eithr yr ydym yn gorfoleddu mewn gorthrymderau; gan wybod fod gorthrymder yn peri dioddefgarwch; A dioddefgarwch, brofiad; a phrofiad, obaith