Rhufeiniaid 5:18-19
Rhufeiniaid 5:18-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly, canlyniad Adda’n troseddu oedd condemnio’r ddynoliaeth, ond canlyniad Iesu yn gwneud y peth iawn oedd bod perthynas iawn gyda Duw, a bywyd, yn cael ei gynnig i’r ddynoliaeth. Cafodd tyrfa enfawr o bobl eu gwneud yn bechaduriaid am fod Adda wedi bod yn anufudd. A’r un modd daeth tyrfa enfawr o bobl i berthynas iawn gyda Duw am fod Iesu wedi bod yn ufudd.
Rhufeiniaid 5:18-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyma'r gymhariaeth gan hynny: fel y daeth collfarn ar y ddynolryw i gyd trwy un weithred o drosedd, felly hefyd y daeth cyfiawnhad sy'n esgor ar fywyd i'r ddynolryw i gyd trwy un weithred o gyfiawnder. Fel y gwnaethpwyd y llawer yn bechaduriaid trwy anufudd-dod un dyn, felly hefyd y gwneir y llawer yn gyfiawn trwy ufudd-dod un dyn.
Rhufeiniaid 5:18-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Felly gan hynny, megis trwy gamwedd un y daeth barn ar bob dyn i gondemniad; felly hefyd trwy gyfiawnder un y daeth y dawn ar bob dyn i gyfiawnhad bywyd. Oblegid megis trwy anufudd-dod un dyn y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid; felly trwy ufudd-dod un y gwneir llawer yn gyfiawn.