Rhufeiniaid 5:12-14
Rhufeiniaid 5:12-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Daeth pechod i’r byd drwy un dyn, a marwolaeth o ganlyniad i hynny. Ac mae pawb yn marw, am fod pawb wedi pechu. Oedd, roedd pechod yn y byd cyn i Dduw roi’r Gyfraith i Moses. Er bod pechod ddim yn cael ei gyfri am fod y Gyfraith ddim yno i’w thorri, roedd pechod yno, ac roedd yn gadael ei ôl. Roedd pobl yn marw o gyfnod Adda hyd amser Moses. Roedden nhw’n marw er eu bod nhw ddim wedi pechu yn union yn yr un ffordd ag Adda drwy fod yn anufudd i orchymyn penodol. Mewn rhyw ffordd mae Adda yn fodel o’r Meseia oedd yn mynd i ddod.
Rhufeiniaid 5:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ein dadl yw hyn. Daeth pechod i'r byd trwy un dyn, a thrwy bechod farwolaeth, ac yn y modd hwn ymledodd marwolaeth i'r ddynolryw i gyd, yn gymaint ag i bawb bechu. Y mae'n wir fod pechod yn y byd cyn bod y Gyfraith, ond yn niffyg cyfraith, nid yw pechod yn cael ei gyfrif. Er hynny, teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses, hyd yn oed ar y rhai oedd heb bechu ar batrwm trosedd Adda; ac y mae Adda yn rhaglun o'r Dyn oedd i ddod.
Rhufeiniaid 5:12-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny, megis trwy un dyn y daeth pechod i’r byd, a marwolaeth trwy bechod; ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymaint â phechu o bawb: Canys hyd y ddeddf yr oedd pechod yn y byd: eithr ni chyfrifir pechod pryd nad oes deddf. Eithr teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses, ie, arnynt hwy y rhai ni phechasant yn ôl cyffelybiaeth camwedd Adda, yr hwn yw ffurf yr un oedd ar ddyfod.