Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 5:1-21

Rhufeiniaid 5:1-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Felly, gan ein bod ni wedi’n derbyn i berthynas iawn gyda Duw, drwy gredu, mae gynnon ni heddwch gyda Duw o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia. Wrth gredu dŷn ni eisoes wedi dod i brofi haelioni Duw, a gallwn edrych ymlaen yn llawen i gael rhannu yn ei ysblander. A dŷn ni’n gallu bod yn llawen hyd yn oed pan dŷn ni’n dioddef, am ein bod ni’n gwybod fod dioddefaint yn rhoi’r nerth i ni ddal ati. Mae’r gallu i ddal ati yn cryfhau ein cymeriad ni, a dyna sy’n rhoi i ni’r gobaith hyderus sydd gynnon ni. Dŷn ni’n gwybod y byddwn ni ddim yn cael ein siomi yn y gobaith yna, am fod Duw eisoes wedi tywallt ei gariad yn ein calonnau drwy roi’r Ysbryd Glân i ni! Pan oedd pethau’n gwbl anobeithiol arnon ni, dyma’r Meseia yn dod ar yr adeg iawn i farw droson ni rai drwg! Prin bod unrhyw un yn fodlon marw dros berson hunangyfiawn. Falle y byddai rhywun yn fodlon marw dros berson da. Ond mae Duw yn dangos i ni gymaint mae’n ein caru ni: mae’r Meseia wedi marw droson ni pan oedden ni’n dal i bechu yn ei erbyn! Dŷn ni bellach wedi cael ein derbyn i berthynas iawn gyda Duw am fod gwaed y Meseia wedi’i dywallt. Does dim amheuaeth, felly, y byddwn ni’n cael ein harbed ganddo rhag cael ein cosbi! Os mai marwolaeth Mab Duw wnaeth ein perthynas ni â Duw yn iawn (a hynny pan oedden ni’n dal yn elynion iddo!), does dim amheuaeth o gwbl, gan ein bod ni bellach yn y berthynas yma, y byddwn ni’n cael ein hachub am ei fod yn fyw! Dŷn ni’n brolio am Dduw o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia! Fe sydd wedi gwneud y berthynas iawn yma’n bosib. Daeth pechod i’r byd drwy un dyn, a marwolaeth o ganlyniad i hynny. Ac mae pawb yn marw, am fod pawb wedi pechu. Oedd, roedd pechod yn y byd cyn i Dduw roi’r Gyfraith i Moses. Er bod pechod ddim yn cael ei gyfri am fod y Gyfraith ddim yno i’w thorri, roedd pechod yno, ac roedd yn gadael ei ôl. Roedd pobl yn marw o gyfnod Adda hyd amser Moses. Roedden nhw’n marw er eu bod nhw ddim wedi pechu yn union yn yr un ffordd ag Adda drwy fod yn anufudd i orchymyn penodol. Mewn rhyw ffordd mae Adda yn fodel o’r Meseia oedd yn mynd i ddod. Ac eto tasen ni’n cymharu’r rhodd o faddeuant gyda throsedd Adda, maen nhw’n wahanol iawn i’w gilydd! Marwolaeth tyrfa enfawr o bobl oedd canlyniad trosedd un (sef Adda). Ond tywallt maddeuant ar dyrfa enfawr o bobl oedd canlyniad beth wnaeth y llall (sef Iesu y Meseia) – ie, maddeuant yn rhodd gan Dduw! Ac mae canlyniad y rhodd mor wahanol i ganlyniad y pechod. Barn a chosb sy’n dilyn yr un trosedd hwnnw, ond mae’r rhodd o faddeuant yn gwneud ein perthynas ni â Duw yn iawn. Dŷn ni’n cael ein gollwng yn rhydd er gwaetha llu o bechodau. Canlyniad trosedd un dyn (sef Adda) oedd fod pawb yn marw, ond o achos beth wnaeth y dyn arall (Iesu y Meseia), bydd y rhai sy’n derbyn rhodd Duw o berthynas iawn gydag e yn cael bywyd tragwyddol. Felly, canlyniad Adda’n troseddu oedd condemnio’r ddynoliaeth, ond canlyniad Iesu yn gwneud y peth iawn oedd bod perthynas iawn gyda Duw, a bywyd, yn cael ei gynnig i’r ddynoliaeth. Cafodd tyrfa enfawr o bobl eu gwneud yn bechaduriaid am fod Adda wedi bod yn anufudd. A’r un modd daeth tyrfa enfawr o bobl i berthynas iawn gyda Duw am fod Iesu wedi bod yn ufudd. Pwrpas rhoi’r Gyfraith i Moses oedd i helpu pobl i weld gymaint oedden nhw’n troseddu. Ond tra oedd pobl yn pechu fwy a mwy, dyma Duw yn tywallt ei haelioni y tu hwnt i bob rheswm. Yn union fel roedd pechod wedi cael gafael mewn pobl a hwythau wedyn yn marw, mae haelioni Duw yn gafael mewn pobl ac yn dod â nhw i berthynas iawn gydag e. Maen nhw’n cael bywyd tragwyddol – o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia.

Rhufeiniaid 5:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Am hynny, oherwydd ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym heddwch â Duw trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Trwyddo ef, yn wir, cawsom ffordd, trwy ffydd, i ddod i'r gras hwn yr ydym yn sefyll ynddo. Yr ydym hefyd yn gorfoleddu yn y gobaith y cawn gyfranogi yng ngogoniant Duw. Heblaw hynny, yr ydym hyd yn oed yn gorfoleddu yn ein gorthrymderau, oherwydd fe wyddom mai o orthrymder y daw'r gallu i ymddál, ac o'r gallu i ymddál y daw rhuddin cymeriad, ac o gymeriad y daw gobaith. A dyma obaith na chawn ein siomi ganddo, oherwydd y mae cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau trwy'r Ysbryd Glân y mae ef wedi ei roi i ni. Oherwydd y mae Crist eisoes, yn yr amser priodol, a ninnau'n ddiymadferth, wedi marw dros yr annuwiol. Go brin y bydd neb yn marw dros un cyfiawn. Efallai y ceir rhywun yn ddigon dewr i farw dros un da. Ond prawf Duw o'r cariad sydd ganddo tuag atom ni yw bod Crist wedi marw drosom pan oeddem yn dal yn bechaduriaid. A ninnau yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed ef, y mae'n sicrach fyth y cawn ein hachub trwyddo ef rhag y digofaint. Oherwydd os cymodwyd ni â Duw trwy farwolaeth ei Fab pan oeddem yn elynion, y mae'n sicrach fyth, ar ôl ein cymodi, y cawn ein hachub trwy ei fywyd. Ond heblaw hynny, yr ydym hefyd yn gorfoleddu yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist; trwyddo ef yr ydym yn awr wedi derbyn y cymod. Ein dadl yw hyn. Daeth pechod i'r byd trwy un dyn, a thrwy bechod farwolaeth, ac yn y modd hwn ymledodd marwolaeth i'r ddynolryw i gyd, yn gymaint ag i bawb bechu. Y mae'n wir fod pechod yn y byd cyn bod y Gyfraith, ond yn niffyg cyfraith, nid yw pechod yn cael ei gyfrif. Er hynny, teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses, hyd yn oed ar y rhai oedd heb bechu ar batrwm trosedd Adda; ac y mae Adda yn rhaglun o'r Dyn oedd i ddod. Ond nid yw'r weithred sy'n drosedd yn cyfateb yn hollol i'r weithred sy'n ras. Y mae'n wir i drosedd yr un ddwyn y llawer i farwolaeth; ond gymaint mwy sydd ar yr ochr arall: helaethrwydd gras Duw a'i rodd raslon i'r llawer, o'r un dyn, Iesu Grist. Ac ni ellir cymharu canlyniad pechod un dyn â chanlyniad rhodd Duw. Ar y naill law, yn dilyn ar un weithred o drosedd, y mae dedfryd gyfreithiol sy'n collfarnu; ar y llaw arall, yn dilyn ar droseddau lawer, y mae gweithred o ras sy'n dyfarnu'n gyfiawn. Y mae'n wir i farwolaeth, trwy drosedd yr un, deyrnasu trwy'r un hwnnw; ond gymaint mwy sydd ar yr ochr arall: pobl sy'n derbyn helaethrwydd gras Duw, a'i gyfiawnder yn rhodd, yn cael byw a theyrnasu trwy un dyn, Iesu Grist. Dyma'r gymhariaeth gan hynny: fel y daeth collfarn ar y ddynolryw i gyd trwy un weithred o drosedd, felly hefyd y daeth cyfiawnhad sy'n esgor ar fywyd i'r ddynolryw i gyd trwy un weithred o gyfiawnder. Fel y gwnaethpwyd y llawer yn bechaduriaid trwy anufudd-dod un dyn, felly hefyd y gwneir y llawer yn gyfiawn trwy ufudd-dod un dyn. Ond daeth y Gyfraith i mewn, er mwyn i drosedd amlhau; ond lle'r amlhaodd pechod, daeth gorlif helaethach o ras; ac felly, fel y teyrnasodd pechod trwy farwolaeth, y mae gras i deyrnasu trwy gyfiawnder, gan ddwyn bywyd tragwyddol trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Rhufeiniaid 5:1-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Am hynny, gan ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym heddwch tuag at Dduw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist: Trwy yr hwn hefyd y cawsom ddyfodfa trwy ffydd i’r gras hwn, yn yr hwn yr ydym yn sefyll ac yn gorfoleddu dan obaith gogoniant Duw. Ac nid felly yn unig, eithr yr ydym yn gorfoleddu mewn gorthrymderau; gan wybod fod gorthrymder yn peri dioddefgarwch; A dioddefgarwch, brofiad; a phrofiad, obaith: A gobaith ni chywilyddia, am fod cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau ni, trwy’r Ysbryd Glân yr hwn a roddwyd i ni. Canys Crist, pan oeddem ni eto yn weiniaid, mewn pryd a fu farw dros yr annuwiol. Oblegid braidd y bydd neb farw dros un cyfiawn: oblegid dros y da ysgatfydd fe feiddiai un farw hefyd. Eithr y mae Duw yn canmol ei gariad tuag atom; oblegid, a nyni eto yn bechaduriaid, i Grist farw trosom ni. Mwy ynteu o lawer, a nyni yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed ef, y’n hachubir rhag digofaint trwyddo ef. Canys os pan oeddem yn elynion, y’n heddychwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fab ef; mwy o lawer, wedi ein heddychu, y’n hachubir trwy ei fywyd ef. Ac nid hynny yn unig, eithr gorfoleddu yr ydym hefyd yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn yr awr hon y derbyniasom y cymod. Am hynny, megis trwy un dyn y daeth pechod i’r byd, a marwolaeth trwy bechod; ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymaint â phechu o bawb: Canys hyd y ddeddf yr oedd pechod yn y byd: eithr ni chyfrifir pechod pryd nad oes deddf. Eithr teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses, ie, arnynt hwy y rhai ni phechasant yn ôl cyffelybiaeth camwedd Adda, yr hwn yw ffurf yr un oedd ar ddyfod. Eithr nid megis y camwedd, felly y mae’r dawn hefyd. Canys os trwy gamwedd un y bu feirw llawer; mwy o lawer yr amlhaodd gras Duw, a’r dawn trwy ras yr un dyn Iesu Grist, i laweroedd. Ac nid megis y bu trwy un a bechodd, y mae’r dawn: canys y farn a ddaeth o un camwedd i gondemniad; eithr y dawn sydd o gamweddau lawer i gyfiawnhad. Canys os trwy gamwedd un y teyrnasodd marwolaeth trwy un; mwy o lawer y caiff y rhai sydd yn derbyn lluosowgrwydd o ras, ac o ddawn cyfiawnder, deyrnasu mewn bywyd trwy un, Iesu Grist. Felly gan hynny, megis trwy gamwedd un y daeth barn ar bob dyn i gondemniad; felly hefyd trwy gyfiawnder un y daeth y dawn ar bob dyn i gyfiawnhad bywyd. Oblegid megis trwy anufudd-dod un dyn y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid; felly trwy ufudd-dod un y gwneir llawer yn gyfiawn. Eithr y ddeddf a ddaeth i mewn fel yr amlhâi’r camwedd: eithr lle yr amlhaodd y pechod, y rhagor amlhaodd gras: Fel megis y teyrnasodd pechod i farwolaeth, felly hefyd y teyrnasai gras trwy gyfiawnder i fywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.