Rhufeiniaid 5:1-2
Rhufeiniaid 5:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Am hynny, oherwydd ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym heddwch â Duw trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Trwyddo ef, yn wir, cawsom ffordd, trwy ffydd, i ddod i'r gras hwn yr ydym yn sefyll ynddo. Yr ydym hefyd yn gorfoleddu yn y gobaith y cawn gyfranogi yng ngogoniant Duw.
Rhanna
Darllen Rhufeiniaid 5Rhufeiniaid 5:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny, gan ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym heddwch tuag at Dduw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist: Trwy yr hwn hefyd y cawsom ddyfodfa trwy ffydd i’r gras hwn, yn yr hwn yr ydym yn sefyll ac yn gorfoleddu dan obaith gogoniant Duw.
Rhanna
Darllen Rhufeiniaid 5