Rhufeiniaid 4:22-25
Rhufeiniaid 4:22-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyna pam y cafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw! Ond dydy’r geiriau “cafodd ei dderbyn” ddim ar gyfer Abraham yn unig – maen nhw ar ein cyfer ninnau hefyd! Gallwn ni gael perthynas iawn gyda Duw yr un fath – ni sy’n credu yn y Duw gododd ein Harglwydd Iesu yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw. Cafodd Iesu ei ladd am ein bod ni wedi troseddu, a chafodd ei godi yn ôl yn fyw i ni gael ein derbyn i berthynas iawn gyda Duw.
Rhufeiniaid 4:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyma pam y cyfrifwyd ei ffydd iddo yn gyfiawnder. Ond ysgrifennwyd y geiriau, “fe'i cyfrifwyd iddo”, nid ar gyfer Abraham yn unig, ond ar ein cyfer ni hefyd. Y mae cyfiawnder i'w gyfrif i ni, sydd â ffydd gennym yn yr hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd oddi wrth y meirw. Cafodd ef ei draddodi i farwolaeth am ein camweddau, a'i gyfodi i'n cyfiawnhau ni.
Rhufeiniaid 4:22-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac am hynny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. Eithr nid ysgrifennwyd hynny er ei fwyn ef yn unig, ddarfod ei gyfrif iddo; Ond er ein mwyn ninnau hefyd, i’r rhai y cyfrifir, y rhai ydym yn credu yn yr hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd ni o feirw: Yr hwn a draddodwyd dros ein pechodau ni, ac a gyfodwyd i’n cyfiawnhau ni.