Rhufeiniaid 4:19-22
Rhufeiniaid 4:19-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Daliodd ati i gredu’n hyderus, er ei fod yn gwybod ei fod yn llawer rhy hen i fod yn dad. Roedd yn gan mlwydd oed! Ac roedd Sara hefyd yn llawer rhy hen i fod yn fam. Ond wnaeth Abraham ddim amau, na stopio credu beth oedd Duw wedi’i addo iddo. Yn wir roedd yn credu’n gryfach bob dydd, ac yn clodfori Duw drwy wneud hynny. Roedd Abraham yn hollol sicr y gallai Duw wneud beth roedd wedi addo’i wneud. Dyna pam y cafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw!
Rhufeiniaid 4:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Er ei fod tua chant oed, ni wanychodd yn ei ffydd, wrth ystyried cyflwr marw ei gorff ei hun a marweidd-dra croth Sara. Nid amheuodd ddim ynglŷn ag addewid Duw, na diffygio mewn ffydd, ond yn hytrach grymusodd yn ei ffydd a rhoi gogoniant i Dduw, yn llawn hyder fod Duw yn abl i gyflawni'r hyn yr oedd wedi ei addo. Dyma pam y cyfrifwyd ei ffydd iddo yn gyfiawnder.
Rhufeiniaid 4:19-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe, yn ddiegwan o ffydd, nid ystyriodd ei gorff ei hun, yr hwn oedd yr awron wedi marweiddio, ac efe ynghylch can mlwydd oed, na marweidd-dra bru Sara. Ac nid amheuodd efe addewid Duw trwy anghrediniaeth; eithr efe a nerthwyd yn y ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw: Ac yn gwbl sicr ganddo, am yr hyn a addawsai efe, ei fod ef yn abl i’w wneuthur hefyd. Ac am hynny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.