Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 4:1-25

Rhufeiniaid 4:1-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Beth gan hynny a ddywedwn am Abraham, hendad ein llinach? Beth a ddarganfu ef? Oherwydd os cafodd Abraham ei gyfiawnhau trwy ei weithredoedd, y mae ganddo rywbeth i ymffrostio o'i herwydd. Ond na, gerbron Duw nid oes ganddo ddim. Oherwydd beth y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud? “Credodd Abraham yn Nuw, ac fe'i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.” Pan fydd rhywun yn gweithio, nid fel rhodd y cyfrifir y tâl, ond fel peth sy'n ddyledus. Pan na fydd rhywun yn gweithio, ond yn rhoi ei ffydd yn yr hwn sy'n cyfiawnhau'r annuwiol, cyfrifir ei ffydd i un felly yn gyfiawnder. Dyna ystyr yr hyn y mae Dafydd yn ei ddweud am wynfyd y rhai y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddynt, yn annibynnol ar gadw gofynion cyfraith: “Gwyn eu byd y rhai y maddeuwyd eu troseddau, ac y cuddiwyd eu pechodau; gwyn ei fyd y sawl na fydd yr Arglwydd yn cyfrif pechod yn ei erbyn.” Y gwynfyd hwn, ai braint yn dilyn ar enwaediad yw? Oni cheir ef heb enwaediad hefyd? Ceir yn wir, oherwydd ein hymadrodd yw, “cyfrifwyd ei ffydd i Abraham yn gyfiawnder”. Ond sut y bu'r cyfrif? Ai ar ôl enwaedu arno, ynteu cyn hynny? Cyn yr enwaedu, nid ar ei ôl. Ac wedyn derbyniodd arwydd yr enwaediad, yn sêl o'r cyfiawnder oedd eisoes yn eiddo iddo trwy ffydd, heb enwaediad. O achos hyn, y mae yn dad i bawb sy'n meddu ar ffydd, heb enwaediad, a chyfiawnder felly yn cael ei gyfrif iddynt. Y mae yn dad hefyd i'r rhai enwaededig sydd nid yn unig yn enwaededig ond hefyd yn dilyn camre'r ffydd oedd yn eiddo i Abraham ein tad cyn enwaedu arno. Y mae'r addewid i Abraham, neu i'w ddisgynyddion, y byddai yn etifedd y byd, wedi ei rhoi, nid trwy'r Gyfraith ond trwy'r cyfiawnder a geir trwy ffydd. Oherwydd, os y rhai sy'n byw yn ôl y Gyfraith yw'r etifeddion, yna gwagedd yw ffydd, a diddim yw'r addewid. Digofaint yw cynnyrch y Gyfraith, ond lle nad oes cyfraith, nid oes trosedd yn ei herbyn chwaith. Am hynny, rhoddwyd yr addewid trwy ffydd er mwyn iddi fod yn ôl gras, fel y byddai yn ddilys i bawb o ddisgynyddion Abraham, nid yn unig i'r rhai sy'n byw yn ôl y Gyfraith, ond hefyd i'r rhai sy'n byw yn ôl ffydd Abraham. Y mae Abraham yn dad i ni i gyd; fel y mae'n ysgrifenedig: “Yr wyf yn dy benodi yn dad cenhedloedd lawer.” Yn y Duw a ddywedodd hyn y credodd Abraham, y Duw sy'n gwneud y meirw'n fyw, ac yn galw i fod yr hyn nad yw'n bod. A'r credu hwn, â gobaith y tu hwnt i obaith, a'i gwnaeth yn dad cenhedloedd lawer, yn ôl yr hyn a lefarwyd: “Felly y bydd dy ddisgynyddion.” Er ei fod tua chant oed, ni wanychodd yn ei ffydd, wrth ystyried cyflwr marw ei gorff ei hun a marweidd-dra croth Sara. Nid amheuodd ddim ynglŷn ag addewid Duw, na diffygio mewn ffydd, ond yn hytrach grymusodd yn ei ffydd a rhoi gogoniant i Dduw, yn llawn hyder fod Duw yn abl i gyflawni'r hyn yr oedd wedi ei addo. Dyma pam y cyfrifwyd ei ffydd iddo yn gyfiawnder. Ond ysgrifennwyd y geiriau, “fe'i cyfrifwyd iddo”, nid ar gyfer Abraham yn unig, ond ar ein cyfer ni hefyd. Y mae cyfiawnder i'w gyfrif i ni, sydd â ffydd gennym yn yr hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd oddi wrth y meirw. Cafodd ef ei draddodi i farwolaeth am ein camweddau, a'i gyfodi i'n cyfiawnhau ni.

Rhufeiniaid 4:1-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ond beth am Abraham felly – tad y genedl Iddewig? Oes ganddo fe rywbeth i’w ddysgu i ni am hyn i gyd? Os cafodd Abraham ei dderbyn gan Dduw am beth wnaeth e, roedd ganddo le i frolio. Ond dim felly oedd hi o safbwynt Duw. Dyma mae’r ysgrifau’n ei ddweud amdano: “Credodd Abraham, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw.” Pan mae rhywun yn gweithio mae’n ystyried ei gyflog fel rhywbeth mae’n ei haeddu, dim fel rhodd. Ond wrth gredu bod Duw yn derbyn pobl annuwiol i berthynas iawn ag e’i hun, dydy rhywun ddim yn dibynnu ar beth mae e’i hun wedi’i wneud. Mae’r “berthynas iawn gyda Duw” yn cael ei roi iddo fel rhodd. Dwedodd y Brenin Dafydd yr un peth! (Mae’n sôn am y fendith sydd pan mae rhywun sy’n cael ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw, ac yntau heb wneud dim i haeddu hynny): “Mae’r rhai sydd wedi cael maddeuant am y pethau drwg wnaethon nhw wedi’u bendithio’n fawr! y rhai sydd â’u pechodau wedi’u symud o’r golwg am byth. Mae’r rhai dydy’r Arglwydd ddim yn dal ati i gyfri eu pechod yn eu herbyn wedi’u bendithio’n fawr!” Ai dim ond Iddewon (sef ‘pobl yr enwaediad’) sy’n cael profi’r fendith yma? Neu ydy pobl eraill hefyd (sef ‘pobl sydd heb enwaediad’)? Gadewch i ni droi’n ôl at Abraham i gael yr ateb: Dŷn ni wedi dweud mai drwy gredu y cafodd Abraham berthynas iawn gyda Duw . Pryd ddigwyddodd hynny? Ai ar ôl iddo fynd drwy’r ddefod o gael ei enwaedu, neu cyn iddo gael ei enwaedu? Yr ateb ydy, cyn iddo gael ei enwaedu! Ar ôl cael ei dderbyn y cafodd e ei enwaedu – a hynny fel arwydd o’r ffaith ei fod wedi credu. Roedd Duw eisoes wedi’i dderbyn i berthynas iawn ag e’i hun. Felly mae Abraham yn dad i bawb sy’n credu ond ddim wedi bod drwy’r ddefod o gael eu henwaedu. Ond mae hefyd yn dad i’r rhai sy’n credu ac wedi cael eu henwaedu – dim am eu bod nhw wedi bod drwy’r ddefod ond am eu bod wedi credu, yr un fath ag Abraham. Roedd Duw wedi addo i Abraham y byddai ei ddisgynyddion yn etifeddu’r ddaear. Cael perthynas iawn gyda Duw drwy gredu sy’n dod â’r addewid yn wir, dim gwneud beth mae’r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn. Os mai’r etifeddion ydy’r rhai sy’n meddwl eu bod nhw’n iawn am eu bod nhw’n ufudd i’r Gyfraith Iddewig, dydy credu yn dda i ddim – yn wir does dim pwynt i Dduw addo dim byd yn y lle cyntaf! Beth mae’r Gyfraith yn ei wneud ydy dangos ein bod ni’n haeddu cael ein cosbi gan Dduw. Os does dim cyfraith does dim trosedd. Felly credu ydy’r ffordd i dderbyn beth mae Duw wedi’i addo! Rhodd Duw ydy’r cwbl! Ac mae disgynyddion Abraham i gyd yn ei dderbyn. Nid dim ond Iddewon sydd â’r Gyfraith ganddyn nhw, ond pawb sydd wedi credu, yr un fath ag Abraham. Ydy, mae Abraham yn dad i ni i gyd! Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud y peth yn hollol glir: “Dw i wedi dy wneud di’n dad i lawer o genhedloedd.” Dyna sut mae’r Duw y credodd Abraham ynddo yn gweld pethau. Fe ydy’r Duw sy’n gwneud pobl farw yn fyw ac yn galw i fod bethau oedd ddim yn bodoli o gwbl o’r blaen! Do, credodd Abraham, a daliodd ati i gredu hyd yn oed pan oedd pethau’n edrych yn gwbl anobeithiol! Credodd y byddai yn “dad i lawer o genhedloedd.” Credodd beth ddwedodd Duw, “Fel yna fydd dy ddisgynyddion di.” Daliodd ati i gredu’n hyderus, er ei fod yn gwybod ei fod yn llawer rhy hen i fod yn dad. Roedd yn gan mlwydd oed! Ac roedd Sara hefyd yn llawer rhy hen i fod yn fam. Ond wnaeth Abraham ddim amau, na stopio credu beth oedd Duw wedi’i addo iddo. Yn wir roedd yn credu’n gryfach bob dydd, ac yn clodfori Duw drwy wneud hynny. Roedd Abraham yn hollol sicr y gallai Duw wneud beth roedd wedi addo’i wneud. Dyna pam y cafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw! Ond dydy’r geiriau “cafodd ei dderbyn” ddim ar gyfer Abraham yn unig – maen nhw ar ein cyfer ninnau hefyd! Gallwn ni gael perthynas iawn gyda Duw yr un fath – ni sy’n credu yn y Duw gododd ein Harglwydd Iesu yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw. Cafodd Iesu ei ladd am ein bod ni wedi troseddu, a chafodd ei godi yn ôl yn fyw i ni gael ein derbyn i berthynas iawn gyda Duw.

Rhufeiniaid 4:1-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Pa beth gan hynny a ddywedwn ni ddarfod i Abraham ein tad ni ei gael, yn ôl y cnawd? Canys os Abraham a gyfiawnhawyd trwy weithredoedd, y mae iddo orfoledd; eithr nid gerbron Duw. Canys pa beth a ddywed yr ysgrythur? Credodd Abraham i Dduw; a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. Eithr i’r neb sydd yn gweithio, ni chyfrifir y gwobr o ras, ond o ddyled. Eithr i’r neb nid yw yn gweithio, ond yn credu yn yr hwn sydd yn cyfiawnhau yr annuwiol, ei ffydd ef a gyfrifir yn gyfiawnder. Megis y mae Dafydd hefyd yn datgan dedwyddwch y dyn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddo heb weithredoedd, gan ddywedyd, Dedwydd yw y rhai y maddeuwyd eu hanwireddau, a’r rhai y cuddiwyd eu pechodau: Dedwydd yw y gŵr nid yw’r Arglwydd yn cyfrif pechod iddo. A ddaeth y dedwyddwch hwn gan hynny ar yr enwaediad yn unig, ynteu ar y dienwaediad hefyd? canys yr ydym yn dywedyd ddarfod cyfrif ffydd i Abraham yn gyfiawnder. Pa fodd gan hynny y cyfrifwyd hi? ai pan oedd yn yr enwaediad, ynteu yn y dienwaediad? Nid yn yr enwaediad, ond yn y dienwaediad. Ac efe a gymerth arwydd yr enwaediad, yn insel cyfiawnder y ffydd, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad: fel y byddai efe yn dad pawb a gredent, yn y dienwaediad; fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt hwythau hefyd: Ac yn dad yr enwaediad, nid i’r rhai o’r enwaediad yn unig, ond i’r sawl hefyd a gerddant lwybrau ffydd Abraham ein tad ni, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad. Canys nid trwy’r ddeddf y daeth yr addewid i Abraham, neu i’w had, y byddai efe yn etifedd y byd: eithr trwy gyfiawnder ffydd. Canys os y rhai sydd o’r ddeddf yw yr etifeddion, gwnaed ffydd yn ofer, a’r addewid yn ddi-rym. Oblegid y mae’r ddeddf yn peri digofaint; canys lle nid oes deddf, nid oes gamwedd. Am hynny o ffydd y mae, fel y byddai yn ôl gras: fel y byddai’r addewid yn sicr i’r holl had; nid yn unig i’r hwn sydd o’r ddeddf, ond hefyd i’r hwn sydd o ffydd Abraham, yr hwn yw ein tad ni oll, (Megis y mae yn ysgrifenedig, Mi a’th wneuthum yn dad llawer o genhedloedd,) gerbron y neb y credodd efe iddo, sef Duw, yr hwn sydd yn bywhau’r meirw, ac sydd yn galw’r pethau nid ydynt, fel pe byddent: Yr hwn yn erbyn gobaith a gredodd dan obaith, fel y byddai efe yn dad cenhedloedd lawer; yn ôl yr hyn a ddywedasid, Felly y bydd dy had di. Ac efe, yn ddiegwan o ffydd, nid ystyriodd ei gorff ei hun, yr hwn oedd yr awron wedi marweiddio, ac efe ynghylch can mlwydd oed, na marweidd-dra bru Sara. Ac nid amheuodd efe addewid Duw trwy anghrediniaeth; eithr efe a nerthwyd yn y ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw: Ac yn gwbl sicr ganddo, am yr hyn a addawsai efe, ei fod ef yn abl i’w wneuthur hefyd. Ac am hynny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. Eithr nid ysgrifennwyd hynny er ei fwyn ef yn unig, ddarfod ei gyfrif iddo; Ond er ein mwyn ninnau hefyd, i’r rhai y cyfrifir, y rhai ydym yn credu yn yr hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd ni o feirw: Yr hwn a draddodwyd dros ein pechodau ni, ac a gyfodwyd i’n cyfiawnhau ni.