Rhufeiniaid 3:9-12
Rhufeiniaid 3:9-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly beth ydyn ni’n ei ddweud? Ydyn ni Iddewon yn well yng ngolwg Duw na phawb arall? Wrth gwrs ddim! Dŷn ni wedi dangos fod pechod yn rheoli’n bywydau ni fel pawb arall! Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud y peth yn glir: “Does gan neb berthynas iawn gyda Duw – neb o gwbl! Does neb sy’n deall go iawn, neb sydd wir yn ceisio Duw. Mae pawb wedi troi cefn arno, ac yn dda i ddim. Does neb yn gwneud daioni – dim un!”
Rhufeiniaid 3:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wel, ynteu, a ydym ni'r Iddewon yn rhagori? Ddim o gwbl! Yr ydym eisoes wedi cyhuddo Iddewon a Groegiaid fel ei gilydd o fod dan lywodraeth pechod. Fel y mae'n ysgrifenedig: “Nid oes neb cyfiawn, nac oes un, neb sydd yn deall, neb yn ceisio Duw. Y mae pawb wedi gwyro, yn ddi-fudd ynghyd; nid oes un a wna ddaioni, nac oes, dim un.
Rhufeiniaid 3:9-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Beth gan hynny? a ydym ni yn fwy rhagorol? Nac ydym ddim: canys ni a brofasom o’r blaen fod pawb, yr Iddewon a’r Groegwyr, dan bechod; Megis y mae yn ysgrifenedig, Nid oes neb cyfiawn, nac oes un: Nid oes neb yn deall; nid oes neb yn ceisio Duw. Gwyrasant oll, aethant i gyd yn anfuddiol; nid oes un yn gwneuthur daioni, nac oes un.