Rhufeiniaid 3:23-28
Rhufeiniaid 3:23-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ie, pawb yn ddiwahaniaeth, oherwydd y maent oll wedi pechu, ac yn amddifad o ogoniant Duw. Gan ras Duw, ac am ddim, y maent yn cael eu cyfiawnhau, trwy'r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu, yr hwn a osododd Duw gerbron y byd, yn ei waed, yn aberth cymod trwy ffydd. Gwnaeth Duw hyn i ddangos ei gyfiawnder yn ddiymwad, yn wyneb yr anwybyddu a fu ar bechodau'r gorffennol yn amser ymatal Duw; ie, i ddangos ei gyfiawnder yn ddiymwad yn yr amser presennol hwn, sef ei fod ef ei hun yn gyfiawn a hefyd yn cyfiawnhau'r sawl sy'n meddu ar ffydd yn Iesu. A oes lle, felly, i'n hymffrost? Nac oes! Y mae wedi ei gau allan. Ar ba egwyddor? Ai egwyddor cadw gofynion cyfraith? Nage'n wir, ond ar egwyddor ffydd. Ein dadl yw y cyfiawnheir rhywun trwy gyfrwng ffydd yn annibynnol ar gadw gofynion cyfraith.
Rhufeiniaid 3:23-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
am fod pawb wedi pechu. Does neb wedi gallu cyrraedd safon berffaith Duw ar eu pennau’u hunain. Duw sy’n gwneud y berthynas yn iawn. Dyma ydy rhodd Duw i ni am fod y Meseia Iesu wedi gwneud popeth oedd ei angen i’n gollwng ni’n rhydd. Drwy ei ffyddlondeb yn tywallt ei waed, rhoddodd Duw e’n aberth i gymryd y gosb am ein pechod ni. Cafodd ei gosbi yn ein lle ni! Roedd yn dangos fod Duw yn berffaith deg, er bod pechodau pobl yn y gorffennol heb eu cosbi cyn hyn. Bod yn amyneddgar oedd e. Ac mae’n dangos ei fod yn dal yn berffaith deg, wrth iddo dderbyn y rhai sy’n credu yn Iesu i berthynas iawn ag e’i hun. Felly oes gynnon ni’r Iddewon le i frolio? Nac oes! Pam ddim? – Yn wahanol i gadw’r Gyfraith Iddewig dydy credu ddim yn rhoi unrhyw le i ni frolio. A dŷn ni’n hollol siŵr mai credu yn Iesu sy’n gwneud ein perthynas ni gyda Duw yn iawn, dim ein gallu ni i wneud beth mae’r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn.
Rhufeiniaid 3:23-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oblegid pawb a bechasant, ac ydynt yn ôl am ogoniant Duw; A hwy wedi eu cyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef, trwy’r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu: Yr hwn a osododd Duw yn iawn, trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o’r blaen, trwy ddioddefgarwch Duw; I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn; fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu. Pa le gan hynny y mae y gorfoledd? Efe a gaewyd allan. Trwy ba ddeddf? ai deddf gweithredoedd? Nage; eithr trwy ddeddf ffydd. Yr ydym ni gan hynny yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn, heb weithredoedd y ddeddf.