Rhufeiniaid 3:20-25
Rhufeiniaid 3:20-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Does neb byw yn gallu bod yn iawn gyda Duw drwy wneud beth mae’r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn. Beth mae’r Gyfraith yn ei wneud go iawn ydy dangos ein pechod i ni. Ond mae Duw bellach wedi dangos i ni sut allwn ni gael perthynas iawn gydag e. Dim cadw’r Gyfraith Iddewig ydy’r ffordd, er bod y Gyfraith a’r Proffwydi yn dangos y ffordd i ni. Y rhai sy’n credu sy’n cael perthynas iawn gyda Duw, am fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon. Mae’r un fath i bawb am fod pawb wedi pechu. Does neb wedi gallu cyrraedd safon berffaith Duw ar eu pennau’u hunain. Duw sy’n gwneud y berthynas yn iawn. Dyma ydy rhodd Duw i ni am fod y Meseia Iesu wedi gwneud popeth oedd ei angen i’n gollwng ni’n rhydd. Drwy ei ffyddlondeb yn tywallt ei waed, rhoddodd Duw e’n aberth i gymryd y gosb am ein pechod ni. Cafodd ei gosbi yn ein lle ni! Roedd yn dangos fod Duw yn berffaith deg, er bod pechodau pobl yn y gorffennol heb eu cosbi cyn hyn. Bod yn amyneddgar oedd e.
Rhufeiniaid 3:20-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd, “gerbron Duw ni chyfiawnheir neb meidrol” trwy gadw gofynion cyfraith. Yr hyn a geir trwy'r Gyfraith yw ymwybyddiaeth o bechod. Ond yn awr, yn annibynnol ar gyfraith, y mae cyfiawnder Duw wedi ei amlygu. Y mae'r Gyfraith a'r proffwydi, yn wir, yn dwyn tystiolaeth iddo, ond cyfiawnder sydd o Dduw ydyw, trwy ffydd yn Iesu Grist i bawb sy'n credu. Ie, pawb yn ddiwahaniaeth, oherwydd y maent oll wedi pechu, ac yn amddifad o ogoniant Duw. Gan ras Duw, ac am ddim, y maent yn cael eu cyfiawnhau, trwy'r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu, yr hwn a osododd Duw gerbron y byd, yn ei waed, yn aberth cymod trwy ffydd. Gwnaeth Duw hyn i ddangos ei gyfiawnder yn ddiymwad, yn wyneb yr anwybyddu a fu ar bechodau'r gorffennol yn amser ymatal Duw
Rhufeiniaid 3:20-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny trwy weithredoedd y ddeddf ni chyfiawnheir un cnawd yn ei olwg ef; canys trwy’r ddeddf y mae adnabod pechod. Ac yr awr hon yr eglurwyd cyfiawnder Duw heb y ddeddf, wrth gael tystiolaeth gan y ddeddf a’r proffwydi; Sef cyfiawnder Duw, yr hwn sydd trwy ffydd Iesu Grist, i bawb ac ar bawb a gredant: canys nid oes gwahaniaeth: Oblegid pawb a bechasant, ac ydynt yn ôl am ogoniant Duw; A hwy wedi eu cyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef, trwy’r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu: Yr hwn a osododd Duw yn iawn, trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o’r blaen, trwy ddioddefgarwch Duw