Rhufeiniaid 3:10-22
Rhufeiniaid 3:10-22 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud y peth yn glir: “Does gan neb berthynas iawn gyda Duw – neb o gwbl! Does neb sy’n deall go iawn, neb sydd wir yn ceisio Duw. Mae pawb wedi troi cefn arno, ac yn dda i ddim. Does neb yn gwneud daioni – dim un!” “Mae eu geiriau’n drewi fel beddau agored; dim ond twyll sydd ar eu tafodau.” “Mae gwenwyn neidr dan eu gwefusau.” “Mae eu cegau yn llawn melltith a chwerwedd.” “Maen nhw’n barod iawn i ladd; mae dinistr a dioddefaint yn eu dilyn nhw i bobman, Dŷn nhw’n gwybod dim am wir heddwch.” “Does ganddyn nhw ddim parch at Dduw o gwbl.” Siarad am yr Iddewon mae Duw yma! Mae’r peth yn amlwg – nhw gafodd yr ysgrifau sanctaidd ganddo! Felly beth mwy sydd i’w ddweud? Mae’r byd i gyd yn wynebu barn Duw. Does neb byw yn gallu bod yn iawn gyda Duw drwy wneud beth mae’r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn. Beth mae’r Gyfraith yn ei wneud go iawn ydy dangos ein pechod i ni. Ond mae Duw bellach wedi dangos i ni sut allwn ni gael perthynas iawn gydag e. Dim cadw’r Gyfraith Iddewig ydy’r ffordd, er bod y Gyfraith a’r Proffwydi yn dangos y ffordd i ni. Y rhai sy’n credu sy’n cael perthynas iawn gyda Duw, am fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon. Mae’r un fath i bawb
Rhufeiniaid 3:10-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fel y mae'n ysgrifenedig: “Nid oes neb cyfiawn, nac oes un, neb sydd yn deall, neb yn ceisio Duw. Y mae pawb wedi gwyro, yn ddi-fudd ynghyd; nid oes un a wna ddaioni, nac oes, dim un. Bedd agored yw eu llwnc, a'u tafodau'n traethu twyll; gwenwyn nadredd dan eu gwefusau, a'u genau'n llawn melltith a chwerwedd. Cyflym eu traed i dywallt gwaed, distryw a thrallod sydd ar eu ffyrdd; nid ydynt yn adnabod ffordd tangnefedd; nid oes ofn Duw ar eu cyfyl.” Fe wyddom mai wrth y rhai sydd dan y Gyfraith y mae'r Gyfraith yn llefaru pob dim a ddywed. Felly dyna daw ar bob ceg, a'r byd i gyd wedi ei osod dan farn Duw. Oherwydd, “gerbron Duw ni chyfiawnheir neb meidrol” trwy gadw gofynion cyfraith. Yr hyn a geir trwy'r Gyfraith yw ymwybyddiaeth o bechod. Ond yn awr, yn annibynnol ar gyfraith, y mae cyfiawnder Duw wedi ei amlygu. Y mae'r Gyfraith a'r proffwydi, yn wir, yn dwyn tystiolaeth iddo, ond cyfiawnder sydd o Dduw ydyw, trwy ffydd yn Iesu Grist i bawb sy'n credu.
Rhufeiniaid 3:10-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Megis y mae yn ysgrifenedig, Nid oes neb cyfiawn, nac oes un: Nid oes neb yn deall; nid oes neb yn ceisio Duw. Gwyrasant oll, aethant i gyd yn anfuddiol; nid oes un yn gwneuthur daioni, nac oes un. Bedd agored yw eu ceg; â’u tafodau y gwnaethant ddichell; gwenwyn asbiaid sydd dan eu gwefusau: Y rhai y mae eu genau yn llawn melltith a chwerwedd: Buan yw eu traed i dywallt gwaed: Distryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd: A ffordd tangnefedd nid adnabuant: Nid oes ofn Duw gerbron eu llygaid. Ni a wyddom hefyd am ba bethau bynnag y mae’r ddeddf yn ei ddywedyd, mai wrth y rhai sydd dan y ddeddf y mae hi yn ei ddywedyd: fel y caeer pob genau, ac y byddo’r holl fyd dan farn Duw. Am hynny trwy weithredoedd y ddeddf ni chyfiawnheir un cnawd yn ei olwg ef; canys trwy’r ddeddf y mae adnabod pechod. Ac yr awr hon yr eglurwyd cyfiawnder Duw heb y ddeddf, wrth gael tystiolaeth gan y ddeddf a’r proffwydi; Sef cyfiawnder Duw, yr hwn sydd trwy ffydd Iesu Grist, i bawb ac ar bawb a gredant: canys nid oes gwahaniaeth