Rhufeiniaid 13:1-2
Rhufeiniaid 13:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae'n rhaid i bob un ymostwng i'r awdurdodau sy'n ben. Oherwydd nid oes awdurdod heb i Dduw ei sefydlu, ac y mae'r awdurdodau sydd ohoni wedi eu sefydlu gan Dduw. Am hynny, y mae'r sawl sy'n gwrthsefyll y fath awdurdod yn gwrthwynebu sefydliad sydd o Dduw. Ac y mae'r cyfryw yn sicr o dynnu barn arnynt eu hunain.
Rhufeiniaid 13:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dylai pawb fod yn atebol i awdurdod y llywodraeth. Duw sy’n rhoi awdurdod i lywodraethau, ac mae’r awdurdodau presennol wedi’u rhoi yn eu lle gan Dduw. Mae rhywun sy’n gwrthwynebu’r awdurdodau yn gwrthwynebu rhywbeth mae Duw wedi’i ordeinio, a bydd pobl felly yn cael eu cosbi.
Rhufeiniaid 13:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ymddarostynged pob enaid i’r awdurdodau goruchel: canys nid oes awdurdod ond oddi wrth Dduw; a’r awdurdodau y sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio. Am hynny pwy bynnag sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod, sydd yn gwrthwynebu ordinhad Duw: a’r rhai a wrthwynebant, a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain.