Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 13:1-14

Rhufeiniaid 13:1-14 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Dylai pawb fod yn atebol i awdurdod y llywodraeth. Duw sy’n rhoi awdurdod i lywodraethau, ac mae’r awdurdodau presennol wedi’u rhoi yn eu lle gan Dduw. Mae rhywun sy’n gwrthwynebu’r awdurdodau yn gwrthwynebu rhywbeth mae Duw wedi’i ordeinio, a bydd pobl felly yn cael eu cosbi. Does dim rhaid ofni’r awdurdodau os ydych yn gwneud daioni. Y rhai sy’n gwneud pethau drwg ddylai ofni. Felly gwna beth sy’n iawn a chei dy ganmol. Wedi’r cwbl mae’r awdurdodau yn gwasanaethu Duw ac yn bodoli er dy les di. Ond os wyt ti’n gwneud drygioni, mae’n iawn i ti ofni, am fod y cleddyf sydd ganddo yn symbol fod ganddo hawl i dy gosbi di. Mae’n gwasanaethu Duw drwy gosbi’r rhai sy’n gwneud drwg. Felly dylid bod yn atebol i’r awdurdodau, dim yn unig i osgoi cosb, ond hefyd i gadw’r gydwybod yn lân. Dyna pam dych chi’n talu trethi hefyd – gweision Duw ydyn nhw, ac mae ganddyn nhw waith i’w wneud. Felly talwch beth sy’n ddyledus i bob un – trethi a thollau. A dangoswch barch atyn nhw. Ond mae un ddyled allwch chi byth ei thalu’n llawn, sef y ddyled i garu’ch gilydd. Mae cariad yn gwneud popeth mae Cyfraith Duw yn ei ofyn. Mae’r gorchmynion i gyd – “Paid godinebu,” “Paid llofruddio,” “Paid dwyn,” “Paid chwennych,” ac yn y blaen – yn cael eu crynhoi yn yr un rheol yma: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.” Dydy cariad ddim yn gwneud niwed i neb, felly cariad ydy’r ffordd i wneud popeth mae Cyfraith Duw’n ei ofyn. Dylech chi fyw fel hyn am eich bod chi’n deall beth sy’n digwydd. Mae’n bryd i chi ddeffro o’ch difaterwch! Mae diwedd y stori, pan fyddwn ni’n cael ein hachub yn derfynol, yn agosach nag oedd pan wnaethon ni ddod i gredu gyntaf. Mae’r nos bron mynd heibio, a’r diwrnod newydd ar fin gwawrio. Felly gadewch i ni stopio ymddwyn fel petaen ni’n perthyn i’r tywyllwch, a pharatoi’n hunain i frwydro dros y goleuni. Gadewch i ni ymddwyn yn weddus fel petai’n olau dydd. Dim partïon gwyllt a meddwi; dim ymddwyn yn anfoesol; dim penrhyddid i’r chwantau; dim ffraeo a chenfigennu. Gadewch i’r Arglwydd Iesu Grist fod fel gwisg amdanoch chi, a pheidiwch rhoi sylw i’ch chwantau hunanol drwy’r adeg.

Rhufeiniaid 13:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Y mae'n rhaid i bob un ymostwng i'r awdurdodau sy'n ben. Oherwydd nid oes awdurdod heb i Dduw ei sefydlu, ac y mae'r awdurdodau sydd ohoni wedi eu sefydlu gan Dduw. Am hynny, y mae'r sawl sy'n gwrthsefyll y fath awdurdod yn gwrthwynebu sefydliad sydd o Dduw. Ac y mae'r cyfryw yn sicr o dynnu barn arnynt eu hunain. Y mae'r llywodraethwyr yn ddychryn, nid i'r sawl sy'n gwneud daioni ond i'r sawl sy'n gwneud drygioni. A wyt ti am fyw heb ofni'r awdurdod? Gwna ddaioni, a chei glod ganddo. Oherwydd gwas Duw ydyw, yn gweini arnat ti er dy les. Ond os drygioni a wnei, dylit ofni, oherwydd nid i ddim y mae'n gwisgo'r cleddyf. Gwas Duw ydyw, ie, dialydd i ddwyn digofaint dwyfol ar ddrwgweithredwyr. Felly, y mae rheidrwydd arnom ymostwng, nid yn unig o achos y digofaint, ond hefyd o achos cydwybod. Dyma pam hefyd yr ydych yn talu trethi, oherwydd gwasanaethu Duw y mae'r awdurdodau wrth fod yn ddyfal yn y gwaith hwn. Talwch i bob un ohonynt beth bynnag sy'n ddyledus, boed dreth, boed doll, boed barch, boed anrhydedd. Peidiwch â bod mewn dyled i neb, ar wahân i'r ddyled o garu eich gilydd. Y mae'r sawl sy'n caru pobl eraill wedi cyflawni holl ofynion y Gyfraith. Oherwydd y mae'r gorchmynion, “Na odineba, na ladd, na ladrata, na chwennych”, a phob gorchymyn arall, wedi eu crynhoi yn y gorchymyn hwn: “Câr dy gymydog fel ti dy hun.” Ni all cariad wneud cam â chymydog. Y mae cariad, felly, yn gyflawniad o holl ofynion y Gyfraith. Ie, gwnewch hyn oll fel rhai sy'n ymwybodol o'r amser, mai dyma'r awr ichwi i ddeffro o gwsg. Erbyn hyn, y mae ein hiachawdwriaeth yn nes atom nag oedd pan ddaethom i gredu. Y mae'r nos ar ddod i ben, a'r dydd ar wawrio. Gadewch inni, felly, roi heibio weithredoedd y tywyllwch, a gwisgo arfau'r goleuni. Gadewch inni fyw yn weddus, fel yng ngolau dydd, heb roi dim lle i loddest a meddwdod, i anniweirdeb ac anlladrwydd, i gynnen ac eiddigedd. Gwisgwch yr Arglwydd Iesu Grist amdanoch; a pheidiwch â rhoi eich bryd ar foddhau chwantau'r cnawd.

Rhufeiniaid 13:1-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ymddarostynged pob enaid i’r awdurdodau goruchel: canys nid oes awdurdod ond oddi wrth Dduw; a’r awdurdodau y sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio. Am hynny pwy bynnag sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod, sydd yn gwrthwynebu ordinhad Duw: a’r rhai a wrthwynebant, a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain. Canys tywysogion nid ydynt ofn i weithredoedd da, eithr i’r rhai drwg. A fynni di nad ofnech yr awdurdod? gwna’r hyn sydd dda, a thi a gei glod ganddo: Canys gweinidog Duw ydyw efe i ti er daioni. Eithr os gwnei ddrwg, ofna; canys nid yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer: oblegid gweinidog Duw yw efe, dialydd llid i’r hwn sydd yn gwneuthur drwg. Herwydd paham anghenraid yw ymddarostwng, nid yn unig oherwydd llid, eithr oherwydd cydwybod hefyd. Canys am hyn yr ydych yn talu teyrnged hefyd: oblegid gwasanaethwyr Duw ydynt hwy, yn gwylied ar hyn yna. Telwch gan hynny i bawb eu dyledion: teyrnged, i’r hwn y mae teyrnged yn ddyledus; toll, i’r hwn y mae toll; ofn, i’r hwn y mae ofn; parch, i’r hwn y mae parch yn ddyledus. Na fyddwch yn nyled neb o ddim, ond o garu bawb eich gilydd: canys yr hwn sydd yn caru arall, a gyflawnodd y gyfraith. Canys hyn, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, Na thrachwanta; ac od oes un gorchymyn arall, y mae wedi ei gynnwys yn gryno yn yr ymadrodd hwn, Câr dy gymydog fel ti dy hun. Cariad ni wna ddrwg i’w gymydog: am hynny cyflawnder y gyfraith yw cariad. A hyn, gan wybod yr amser, ei bod hi weithian yn bryd i ni ddeffroi o gysgu: canys yr awr hon y mae ein hiachawdwriaeth ni yn nes na phan gredasom. Y nos a gerddodd ymhell, a’r dydd a nesaodd: am hynny bwriwn oddi wrthym weithredoedd y tywyllwch, a gwisgwn arfau’r goleuni. Rhodiwn yn weddus, megis wrth liw dydd; nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn cydorwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen. Eithr gwisgwch amdanoch yr Arglwydd Iesu Grist; ac na wnewch ragddarbod dros y cnawd, er mwyn cyflawni ei chwantau ef.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd