Rhufeiniaid 12:9-18
Rhufeiniaid 12:9-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Rhaid i’ch cariad chi fod yn gariad go iawn – dim rhyw gariad arwynebol. Yn casáu y drwg â chasineb perffaith, ac yn dal gafael yn beth sy’n dda. Byddwch o ddifri yn eich gofal am eich gilydd, a dangos parch at eich gilydd. Peidiwch byth â gadael i’ch brwdfrydedd oeri, ond bod ar dân yn gweithio i’r Arglwydd yn nerth yr Ysbryd Glân. Byddwch yn llawen wrth feddwl am y cwbl sydd gan Dduw ar eich cyfer chi. Byddwch yn amyneddgar tra dych chi’n dioddef, a daliwch ati i weddïo. Rhannwch beth sydd gynnoch chi gyda phobl Dduw sydd mewn angen. Ewch allan o’ch ffordd i roi croeso i ymwelwyr yn eich cartrefi bob amser. Peidiwch melltithio’r bobl hynny sy’n eich erlid chi – gofynnwch i Dduw eu bendithio nhw. Byddwch yn llawen gyda phobl sy’n hapus, a chrio gyda’r rhai sy’n crio. Byddwch yn ffrindiau da i’ch gilydd. Peidiwch meddwl eich bod yn rhy bwysig i fod yn ffrindiau gyda’r bobl hynny sy’n ‘neb’. Peidiwch rhoi’r argraff eich bod yn gwybod y cwbl. Peidiwch byth talu’r pwyth yn ôl. Gadewch i bobl weld eich bod yn gwneud y peth anrhydeddus bob amser. Gwnewch bopeth allwch chi i fyw mewn heddwch gyda phawb.
Rhufeiniaid 12:9-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydded eich cariad yn ddiragrith. Casewch ddrygioni. Glynwch wrth ddaioni. Byddwch wresog yn eich serch at eich gilydd fel cymdeithas. Rhowch y blaen i'ch gilydd mewn parch. Yn ddiorffwys eich ymroddiad, yn frwd eich ysbryd, gwasanaethwch yr Arglwydd. Llawenhewch mewn gobaith. Safwch yn gadarn dan orthrymder. Daliwch ati i weddïo. Cyfrannwch at reidiau'r saint, a byddwch barod eich lletygarwch. Bendithiwch y rhai sy'n eich erlid, bendithiwch heb felltithio byth. Llawenhewch gyda'r rhai sy'n llawenhau, ac wylwch gyda'r rhai sy'n wylo. Byddwch yn gytûn ymhlith eich gilydd. Gochelwch feddyliau mawreddog; yn hytrach, rhodiwch gyda'r distadl. Peidiwch â'ch cyfrif eich hunain yn ddoeth. Peidiwch â thalu drwg am ddrwg i neb. Bydded eich amcanion yn anrhydeddus yng ngolwg pawb. Os yw'n bosibl, ac os yw'n dibynnu arnoch chwi, daliwch mewn heddwch â phawb.
Rhufeiniaid 12:9-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Bydded cariad yn ddiragrith. Casewch y drwg, a glynwch wrth y da. Mewn cariad brawdol byddwch garedig i’ch gilydd; yn rhoddi parch, yn blaenori eich gilydd: Nid yn ddiog mewn diwydrwydd; yn wresog yn yr ysbryd; yn gwasanaethu yr Arglwydd: Yn llawen mewn gobaith; yn ddioddefgar mewn cystudd; yn dyfalbarhau mewn gweddi: Yn cyfrannu i gyfreidiau’r saint; ac yn dilyn lletygarwch. Bendithiwch y rhai sydd yn eich ymlid: bendithiwch, ac na felltithiwch. Byddwch lawen gyda’r rhai sydd lawen, ac wylwch gyda’r rhai sydd yn wylo. Byddwch yn unfryd â’ch gilydd: heb roi eich meddwl ar uchel bethau; eithr yn gydostyngedig â’r rhai iselradd. Na fyddwch ddoethion yn eich tyb eich hunain. Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Darperwch bethau onest yng ngolwg pob dyn. Os yw bosibl, hyd y mae ynoch chwi, byddwch heddychlon â phob dyn.