Rhufeiniaid 12:19-21
Rhufeiniaid 12:19-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Peidiwch mynnu dial ar bobl, ffrindiau; gadewch i Dduw ddelio gyda’r peth. Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Fi sy’n dial; gwna i dalu yn ôl’ meddai’r Arglwydd.” Dyma ddylet ti ei wneud: “Os ydy dy elyn yn llwgu, rho fwyd iddo; os ydy e’n sychedig, rho rywbeth i’w yfed iddo; wrth wneud hynny byddi’n tywallt marwor tanllyd ar ei ben.” Paid gadael i ddrygioni dy ddal yn ei grafangau – trecha di ddrygioni drwy wneud daioni.
Rhufeiniaid 12:19-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Peidiwch â mynnu dial, gyfeillion annwyl, ond rhowch ei gyfle i'r digofaint dwyfol, fel y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Myfi piau dial, myfi a dalaf yn ôl,’ medd yr Arglwydd.” Yn hytrach, os bydd dy elynion yn newynu, rho fwyd iddynt; os byddant yn sychedu, rho iddynt beth i'w yfed. Os gwnei hyn, byddi'n pentyrru marwor poeth ar eu pennau. Paid â goddef dy drechu gan ddrygioni. Trecha di ddrygioni â daioni.
Rhufeiniaid 12:19-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Nac ymddielwch, rai annwyl, ond rhoddwch le i ddigofaint: canys y mae yn ysgrifenedig, I mi y mae dial; myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. Am hynny, os dy elyn a newyna, portha ef; os sycheda, dyro iddo ddiod: canys wrth wneuthur hyn ti a bentyrri farwor tanllyd ar ei ben ef. Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni.