Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 12:1-21

Rhufeiniaid 12:1-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Felly, am fod Duw wedi bod mor drugarog wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, dw i’n apelio ar i chi roi eich hunain yn llwyr i Dduw. Cyflwyno eich hunain iddo yn aberth byw – un sy’n lân ac yn dderbyniol ganddo. Dyna beth ydy addoliad go iawn! O hyn ymlaen rhaid i chi stopio ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu. Gadewch i Dduw newid eich bywyd chi’n llwyr drwy chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau. Byddwch yn gwybod wedyn beth mae Duw eisiau, ac yn gweld fod hynny’n dda ac yn ei blesio fe, ac mai dyna’r peth iawn i’w wneud. Gadewch i mi ddweud hyn wrthoch chi, fel rhywun mae Duw wedi bod mor garedig ato: Peidiwch meddwl eich bod chi’n well nag ydych chi. Byddwch yn onest gyda chi’ch hun wrth ystyried faint o ffydd mae Duw wedi’i roi i chi. Mae’r eglwys yr un fath â’r corff dynol – mae gwahanol rannau i’r corff, a dydy pob rhan o’r corff ddim yn gwneud yr un gwaith. Yn yr eglwys dŷn ni gyda’n gilydd yn gwneud un corff, sef corff y Meseia. Mae pob un ohonon ni’n rhan o’r corff ac mae arnon ni angen pawb arall. Mae Duw wedi rhoi doniau gwahanol i bob un ohonon ni. Os ydy Duw wedi rhoi’r gallu i ti roi neges broffwydol, gwna hynny pan wyt ti’n gwybod fod Duw am i ti wneud. Os mai helpu pobl eraill ydy dy ddawn di, gwna job dda ohoni. Os oes gen ti’r ddawn i ddysgu pobl eraill, gwna hynny’n gydwybodol. Os wyt ti’n rhywun sy’n annog pobl eraill, bwrw iddi! Os wyt yn rhannu dy eiddo gydag eraill, bydd yn hael. Os oes gen ti’r ddawn i arwain, gwna hynny’n frwd. Os mai dangos caredigrwydd ydy dy ddawn di, gwna hynny’n llawen. Rhaid i’ch cariad chi fod yn gariad go iawn – dim rhyw gariad arwynebol. Yn casáu y drwg â chasineb perffaith, ac yn dal gafael yn beth sy’n dda. Byddwch o ddifri yn eich gofal am eich gilydd, a dangos parch at eich gilydd. Peidiwch byth â gadael i’ch brwdfrydedd oeri, ond bod ar dân yn gweithio i’r Arglwydd yn nerth yr Ysbryd Glân. Byddwch yn llawen wrth feddwl am y cwbl sydd gan Dduw ar eich cyfer chi. Byddwch yn amyneddgar tra dych chi’n dioddef, a daliwch ati i weddïo. Rhannwch beth sydd gynnoch chi gyda phobl Dduw sydd mewn angen. Ewch allan o’ch ffordd i roi croeso i ymwelwyr yn eich cartrefi bob amser. Peidiwch melltithio’r bobl hynny sy’n eich erlid chi – gofynnwch i Dduw eu bendithio nhw. Byddwch yn llawen gyda phobl sy’n hapus, a chrio gyda’r rhai sy’n crio. Byddwch yn ffrindiau da i’ch gilydd. Peidiwch meddwl eich bod yn rhy bwysig i fod yn ffrindiau gyda’r bobl hynny sy’n ‘neb’. Peidiwch rhoi’r argraff eich bod yn gwybod y cwbl. Peidiwch byth talu’r pwyth yn ôl. Gadewch i bobl weld eich bod yn gwneud y peth anrhydeddus bob amser. Gwnewch bopeth allwch chi i fyw mewn heddwch gyda phawb. Peidiwch mynnu dial ar bobl, ffrindiau; gadewch i Dduw ddelio gyda’r peth. Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Fi sy’n dial; gwna i dalu yn ôl’ meddai’r Arglwydd.” Dyma ddylet ti ei wneud: “Os ydy dy elyn yn llwgu, rho fwyd iddo; os ydy e’n sychedig, rho rywbeth i’w yfed iddo; wrth wneud hynny byddi’n tywallt marwor tanllyd ar ei ben.” Paid gadael i ddrygioni dy ddal yn ei grafangau – trecha di ddrygioni drwy wneud daioni.

Rhufeiniaid 12:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Am hynny, yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, ar sail tosturiaethau Duw, i'ch offrymu eich hunain yn aberth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw. Felly y rhowch iddo addoliad ysbrydol. A pheidiwch â chydymffurfio â'r byd hwn, ond bydded ichwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy'n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef. Oherwydd, yn rhinwedd y gras y mae Duw wedi ei roi i mi, yr wyf yn dweud wrth bob un yn eich plith am beidio â'i gyfrif ei hun yn well nag y dylid ei gyfrif, ond bod yn gyfrifol yn ei gyfrif, ac yn gyson â'r mesur o ffydd y mae Duw wedi ei roi i bob un. Yn union fel y mae gennym aelodau lawer mewn un corff, ond nad oes gan yr holl aelodau yr un gwaith, felly hefyd yr ydym ni, sy'n llawer, yn un corff yng Nghrist, ac yn aelodau bob un i'w gilydd. A chan fod gennym ddoniau sy'n amrywio yn ôl y gras a roddwyd i ni, dylem eu harfer yn gyson â hynny. Os proffwydoliaeth yw dy ddawn, arfer hi yn gymesur â'th ffydd. Os dawn gweini ydyw, arfer hi i weini. Os addysgu yw dy ddawn, arfer dy ddawn i addysgu, ac os cynghori, i gynghori. Os wyt yn rhannu ag eraill, gwna hynny gyda haelioni; os wyt yn arweinydd, gwna'r gwaith gydag ymroddiad; os wyt yn dangos tosturi, gwna hynny gyda llawenydd. Bydded eich cariad yn ddiragrith. Casewch ddrygioni. Glynwch wrth ddaioni. Byddwch wresog yn eich serch at eich gilydd fel cymdeithas. Rhowch y blaen i'ch gilydd mewn parch. Yn ddiorffwys eich ymroddiad, yn frwd eich ysbryd, gwasanaethwch yr Arglwydd. Llawenhewch mewn gobaith. Safwch yn gadarn dan orthrymder. Daliwch ati i weddïo. Cyfrannwch at reidiau'r saint, a byddwch barod eich lletygarwch. Bendithiwch y rhai sy'n eich erlid, bendithiwch heb felltithio byth. Llawenhewch gyda'r rhai sy'n llawenhau, ac wylwch gyda'r rhai sy'n wylo. Byddwch yn gytûn ymhlith eich gilydd. Gochelwch feddyliau mawreddog; yn hytrach, rhodiwch gyda'r distadl. Peidiwch â'ch cyfrif eich hunain yn ddoeth. Peidiwch â thalu drwg am ddrwg i neb. Bydded eich amcanion yn anrhydeddus yng ngolwg pawb. Os yw'n bosibl, ac os yw'n dibynnu arnoch chwi, daliwch mewn heddwch â phawb. Peidiwch â mynnu dial, gyfeillion annwyl, ond rhowch ei gyfle i'r digofaint dwyfol, fel y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Myfi piau dial, myfi a dalaf yn ôl,’ medd yr Arglwydd.” Yn hytrach, os bydd dy elynion yn newynu, rho fwyd iddynt; os byddant yn sychedu, rho iddynt beth i'w yfed. Os gwnei hyn, byddi'n pentyrru marwor poeth ar eu pennau. Paid â goddef dy drechu gan ddrygioni. Trecha di ddrygioni â daioni.

Rhufeiniaid 12:1-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er trugareddau Duw, roddi ohonoch eich cyrff yn aberth byw, sanctaidd, cymeradwy gan Dduw; yr hyn yw eich rhesymol wasanaeth chwi. Ac na chydymffurfiwch â’r byd hwn: eithr ymnewidiwch trwy adnewyddiad eich meddwl; fel y profoch beth yw daionus, a chymeradwy, a pherffaith ewyllys Duw. Canys yr wyf yn dywedyd, trwy y gras a roddwyd i mi, wrth bob un a’r sydd yn eich plith, na byddo i neb uchel synied yn amgen nag y dylid synied; eithr synied i sobrwydd, fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd. Canys megis y mae gennym aelodau lawer mewn un corff, ac nad oes gan yr holl aelodau yr un swydd: Felly ninnau, a ni yn llawer, ydym un corff yng Nghrist, a phob un yn aelodau i’w gilydd. A chan fod i ni amryw ddoniau yn ôl y gras a roddwyd i ni, pa un bynnag ai proffwydoliaeth, proffwydwn yn ôl cysondeb y ffydd; Ai gweinidogaeth, byddwn ddyfal yn y weinidogaeth; neu yr hwn sydd yn athrawiaethu, yn yr athrawiaeth; Neu yr hwn sydd yn cynghori, yn y cyngor: yr hwn sydd yn cyfrannu, gwnaed mewn symlrwydd; yr hwn sydd yn llywodraethu, mewn diwydrwydd; yr hwn sydd yn trugarhau, mewn llawenydd. Bydded cariad yn ddiragrith. Casewch y drwg, a glynwch wrth y da. Mewn cariad brawdol byddwch garedig i’ch gilydd; yn rhoddi parch, yn blaenori eich gilydd: Nid yn ddiog mewn diwydrwydd; yn wresog yn yr ysbryd; yn gwasanaethu yr Arglwydd: Yn llawen mewn gobaith; yn ddioddefgar mewn cystudd; yn dyfalbarhau mewn gweddi: Yn cyfrannu i gyfreidiau’r saint; ac yn dilyn lletygarwch. Bendithiwch y rhai sydd yn eich ymlid: bendithiwch, ac na felltithiwch. Byddwch lawen gyda’r rhai sydd lawen, ac wylwch gyda’r rhai sydd yn wylo. Byddwch yn unfryd â’ch gilydd: heb roi eich meddwl ar uchel bethau; eithr yn gydostyngedig â’r rhai iselradd. Na fyddwch ddoethion yn eich tyb eich hunain. Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Darperwch bethau onest yng ngolwg pob dyn. Os yw bosibl, hyd y mae ynoch chwi, byddwch heddychlon â phob dyn. Nac ymddielwch, rai annwyl, ond rhoddwch le i ddigofaint: canys y mae yn ysgrifenedig, I mi y mae dial; myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. Am hynny, os dy elyn a newyna, portha ef; os sycheda, dyro iddo ddiod: canys wrth wneuthur hyn ti a bentyrri farwor tanllyd ar ei ben ef. Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni.