Rhufeiniaid 12:1-2
Rhufeiniaid 12:1-2 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Felly, am fod Duw wedi bod mor drugarog wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, dw i’n apelio ar i chi roi eich hunain yn llwyr i Dduw. Cyflwyno eich hunain iddo yn aberth byw – un sy’n lân ac yn dderbyniol ganddo. Dyna beth ydy addoliad go iawn! O hyn ymlaen rhaid i chi stopio ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu. Gadewch i Dduw newid eich bywyd chi’n llwyr drwy chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau. Byddwch yn gwybod wedyn beth mae Duw eisiau, ac yn gweld fod hynny’n dda ac yn ei blesio fe, ac mai dyna’r peth iawn i’w wneud.
Rhufeiniaid 12:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Am hynny, yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, ar sail tosturiaethau Duw, i'ch offrymu eich hunain yn aberth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw. Felly y rhowch iddo addoliad ysbrydol. A pheidiwch â chydymffurfio â'r byd hwn, ond bydded ichwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy'n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef.
Rhufeiniaid 12:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er trugareddau Duw, roddi ohonoch eich cyrff yn aberth byw, sanctaidd, cymeradwy gan Dduw; yr hyn yw eich rhesymol wasanaeth chwi. Ac na chydymffurfiwch â’r byd hwn: eithr ymnewidiwch trwy adnewyddiad eich meddwl; fel y profoch beth yw daionus, a chymeradwy, a pherffaith ewyllys Duw.