Rhufeiniaid 10:1-11
Rhufeiniaid 10:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i’n dyheu o waelod calon ac yn gweddïo ar Dduw y bydd fy mhobl, yr Iddewon, yn cael eu hachub. Galla i dystio eu bod nhw’n frwdfrydig dros Dduw, ond dŷn nhw ddim wedi deall y gwirionedd. Yn lle derbyn ffordd Duw o ddod â phobl i berthynas iawn ag e ei hun, maen nhw wedi mynnu ceisio gwneud eu hunain yn iawn gyda Duw drwy gadw’r Gyfraith. Felly maen nhw wedi gwrthod plygu i Dduw. Ond y Meseia ydy’r nod mae Cyfraith Duw yn anelu ato! Felly y rhai sy’n credu ynddo fe sy’n cael eu derbyn i berthynas iawn gyda Duw. Dyma ddwedodd Moses am y Gyfraith fel ffordd o gael perthynas iawn gyda Duw: “Y sawl sy’n gwneud y pethau yma sy’n cael byw go iawn.” Ond mae cael perthynas iawn gyda Duw drwy gredu yn dweud: “Paid meddwl: Pwy wnaiff fynd i fyny i’r nefoedd?” (hynny ydy, i ddod â’r Meseia i lawr) neu “Pwy wnaiff fynd i lawr i’r dyfnder” (hynny ydy, i ddod â’r Meseia yn ôl yn fyw). Dyma mae’n ei ddweud: “Mae’r neges yn agos atat ti; mae ar dy wefusau ac yn dy galon di.” (Hynny ydy, y neges dŷn ni’n ei chyhoeddi, sef mai credu ydy’r ffordd): Os wnei di gyffesu ‘â’th wefusau’, “Iesu ydy’r Arglwydd”, a chredu ‘yn dy galon’ fod Duw wedi’i godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, cei dy achub. Credu yn y galon sy’n dy wneud di’n iawn gyda Duw, a chei dy achub wrth gyffesu hynny’n agored. Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Fydd pwy bynnag sy’n credu ynddo ddim yn cael ei siomi.”
Rhufeiniaid 10:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fy nghyfeillion, ewyllys fy nghalon, a'm gweddi ar Dduw dros fy mhobl, yw iddynt gael eu dwyn i iachawdwriaeth. Gallaf dystio o'u plaid fod ganddynt sêl dros Dduw. Ond sêl heb ddeall ydyw. Oherwydd, yn eu hanwybodaeth am gyfiawnder Duw, a'u hymgais i sefydlu eu cyfiawnder eu hunain, nid ydynt wedi ymostwng i gyfiawnder Duw. Oherwydd Crist yw diwedd y Gyfraith, ac felly, i bob un sy'n credu y daw cyfiawnder Duw. Ysgrifennodd Moses am y cyfiawnder trwy y Gyfraith: “Y sawl sy'n cadw ei gofynion a gaiff fyw trwyddynt.” Ond fel hyn y dywed y cyfiawnder trwy ffydd: “Paid â dweud yn dy galon, ‘Pwy a esgyn i'r nef?’ ”—hynny yw, i ddwyn Crist i lawr— “neu, ‘Pwy a ddisgyn i'r dyfnder?’ ”—hynny yw, i ddwyn Crist i fyny oddi wrth y meirw. Ond beth mae'n ei ddweud? “Y mae'r gair yn agos atat, yn dy enau ac yn dy galon.” A dyma'r gair yr ydym ni yn ei bregethu, gair ffydd, sef: “Os cyffesi Iesu yn Arglwydd â'th enau, a chredu yn dy galon fod Duw wedi ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, cei dy achub.” Oherwydd credu â'r galon sy'n esgor ar gyfiawnder, a chyffesu â'r genau sy'n esgor ar iachawdwriaeth. Y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Pob un sy'n credu ynddo, ni chywilyddir mohono.”
Rhufeiniaid 10:1-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O frodyr, gwir ewyllys fy nghalon, a’m gweddi ar Dduw dros yr Israel, sydd er iachawdwriaeth. Canys yr wyf fi yn dyst iddynt, fod ganddynt sêl Duw, eithr nid ar ôl gwybodaeth. Canys hwynt-hwy, heb wybod cyfiawnder Duw, ac yn ceisio gosod eu cyfiawnder eu hunain, nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw. Canys Crist yw diwedd y ddeddf, er cyfiawnder i bob un sy’n credu. Canys y mae Moses yn ysgrifennu am y cyfiawnder sydd o’r ddeddf, Mai’r dyn a wnêl y pethau hynny, a fydd byw trwyddynt. Eithr y mae’r cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn; Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i’r nef? (hynny yw, dwyn Crist i waered oddi uchod:) Neu, pwy a ddisgyn i’r dyfnder? (hynny yw, dwyn Crist drachefn i fyny oddi wrth y meirw,) Eithr pa beth y mae efe yn ei ddywedyd? Mae’r gair yn agos atat, yn dy enau, ac yn dy galon: hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu; Mai os cyffesi â’th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi. Canys â’r galon y credir i gyfiawnder, ac â’r genau y cyffesir i iachawdwriaeth. Oblegid y mae’r ysgrythur yn dywedyd, Pwy bynnag sydd yn credu ynddo ef, ni chywilyddir.