Rhufeiniaid 1:8-14
Rhufeiniaid 1:8-14 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dw i eisiau i chi wybod yn gyntaf fy mod i’n diolch i Dduw drwy Iesu y Meseia amdanoch chi i gyd, achos mae pobl drwy’r gwledydd i gyd yn sôn am eich ffydd chi. Dw i wrthi’n gweithio fy ngorau glas dros Dduw drwy gyhoeddi’r newyddion da am ei Fab, ac mae e’n gwybod mod i’n gweddïo drosoch chi o hyd ac o hyd. Dw i’n gweddïo y bydd e’n ei gwneud hi’n bosib i mi ddod atoch chi o’r diwedd. Dw i wir yn hiraethu am gael dod i’ch gweld chi, i mi gael rhannu rhyw fendith ysbrydol gyda chi fydd yn eich gwneud chi’n gryf. Byddwn i a chithau’n cael ein calonogi wrth i ni rannu’n profiadau. Dw i am i chi ddeall, frodyr a chwiorydd annwyl, fy mod i wedi bwriadu dod atoch lawer gwaith, ond mae rhywbeth wedi fy rhwystro bob tro hyd yn hyn. Dw i eisiau gweld mwy a mwy o bobl Rhufain yn dod i gredu yn Iesu, fel sydd wedi digwydd yn y gwledydd eraill lle dw i wedi bod. Mae’n rhaid i mi ddweud am Iesu wrth bawb – mae fel petai gen i ddyled i’w thalu! Dim ots os ydyn nhw’n bobl ddiwylliedig sydd wedi cael addysg neu’n farbariaid cwbl ddi-addysg.
Rhufeiniaid 1:8-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn gyntaf oll, yr wyf yn diolch i'm Duw, trwy Iesu Grist, amdanoch chwi oll, oherwydd y mae'r sôn am eich ffydd yn cerdded trwy'r holl fyd. Y mae Duw, yr un y mae fy ysbryd yn ei wasanaethu yn Efengyl ei Fab, yn dyst i mi mor ddi-baid y byddaf bob amser yn eich galw i gof yn fy ngweddïau wrth ofyn ganddo, os dyna'i ewyllys, a gaf fi yn awr o'r diwedd, rywsut neu'i gilydd, rwydd hynt i ddod atoch. Oherwydd y mae hiraeth arnaf am eich gweld, er mwyn eich cynysgaeddu â rhyw ddawn ysbrydol i'ch cadarnhau; neu yn hytrach, os caf esbonio, i mi, yn eich cymdeithas, gael fy nghalonogi ynghyd â chwi trwy'r ffydd sy'n gyffredin i'r naill a'r llall ohonom. Yr wyf am i chwi wybod, fy nghyfeillion, imi fwriadu lawer gwaith ddod atoch, er mwyn cael peth ffrwyth yn eich plith chwi fel y cefais ymhlith y rhelyw o'r Cenhedloedd, ond hyd yma yr wyf wedi fy rhwystro. Groegiaid a barbariaid, doethion ac annoethion—yr wyf dan rwymedigaeth iddynt oll.
Rhufeiniaid 1:8-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn gyntaf, yr wyf yn diolch i’m Duw trwy Iesu Grist drosoch chwi oll, oblegid bod eich ffydd chwi yn gyhoeddus yn yr holl fyd. Canys tyst i mi yw Duw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu yn fy ysbryd yn efengyl ei Fab ef, fy mod i yn ddi-baid yn gwneuthur coffa ohonoch bob amser yn fy ngweddïau, Gan ddeisyf a gawn ryw fodd, ryw amser bellach, rwydd hynt gydag ewyllys Duw i ddyfod atoch chwi. Canys yr wyf yn hiraethu am eich gweled, fel y gallwyf gyfrannu i chwi ryw ddawn ysbrydol, fel y’ch cadarnhaer: A hynny sydd i’m cydymgysuro ynoch chwi, trwy ffydd ein gilydd, yr eiddoch chwi a’r eiddof finnau. Eithr ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod atoch, (ond fo’m lluddiwyd i hyd yn hyn,) fel y cawn ryw ffrwyth ynoch chwi hefyd, megis ag yn y Cenhedloedd eraill. Dyledwr ydwyf i’r Groegiaid, ac i’r barbariaid hefyd; i’r doethion, ac i’r annoethion hefyd.