Rhufeiniaid 1:14-17
Rhufeiniaid 1:14-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Groegiaid a barbariaid, doethion ac annoethion—yr wyf dan rwymedigaeth iddynt oll. A dyma'r rheswm fy mod i mor eiddgar i bregethu'r Efengyl i chwithau sydd yn Rhufain. Nid oes arnaf gywilydd o'r Efengyl, oherwydd gallu Duw yw hi ar waith er iachawdwriaeth i bob un sy'n credu, yr Iddewon yn gyntaf a hefyd y Groegiaid. Ynddi hi y datguddir cyfiawnder Duw, a hynny trwy ffydd o'r dechrau i'r diwedd, fel y mae'n ysgrifenedig: “Y sawl sydd trwy ffydd yn gyfiawn a gaiff fyw.”
Rhufeiniaid 1:14-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’n rhaid i mi ddweud am Iesu wrth bawb – mae fel petai gen i ddyled i’w thalu! Dim ots os ydyn nhw’n bobl ddiwylliedig sydd wedi cael addysg neu’n farbariaid cwbl ddi-addysg. A dyna pam dw i mor awyddus i ddod atoch chi yn Rhufain hefyd i gyhoeddi’r newyddion da. Does gen i ddim cywilydd o’r newyddion da o gwbl. Dyma’r ffordd rymus mae Duw’n gweithio i achub pawb sy’n credu – yr Iddew a phawb arall hefyd. Dyma’r newyddion da sy’n dangos i ni sut allwn ni gael perthynas iawn â Duw. Yr unig beth sydd ei angen ydy credu ei fod e’n ffyddlon. Dyna mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud: “Drwy ffydd mae’r un sy’n iawn gyda Duw yn byw.”
Rhufeiniaid 1:14-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Dyledwr ydwyf i’r Groegiaid, ac i’r barbariaid hefyd; i’r doethion, ac i’r annoethion hefyd. Felly, hyd y mae ynof fi, parod ydwyf i bregethu’r efengyl i chwithau hefyd y rhai ydych yn Rhufain. Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist: oblegid gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un a’r sydd yn credu; i’r Iddew yn gyntaf, a hefyd i’r Groegwr. Canys ynddi hi y datguddir cyfiawnder Duw o ffydd i ffydd; megis y mae yn ysgrifenedig, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd.