Rhufeiniaid 1:1-32
Rhufeiniaid 1:1-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Paul, gwas Crist Iesu, sy'n ysgrifennu, apostol trwy alwad Duw, ac wedi ei neilltuo i wasanaeth Efengyl Duw. Addawodd Duw yr Efengyl hon ymlaen llaw trwy ei broffwydi yn yr Ysgrythurau sanctaidd, Efengyl am ei Fab: yn nhrefn y cnawd, ganwyd ef yn llinach Dafydd; ond yn nhrefn sanctaidd yr Ysbryd, cyhoeddwyd ef yn Fab Duw, â mawr allu, trwy atgyfodiad o farwolaeth. Dyma Iesu Grist ein Harglwydd. Trwyddo ef derbyniasom ras a swydd apostol, i ennill, ar ei ran, ffydd ac ufudd-dod ymhlith yr holl Genhedloedd. Ymhlith y rhain yr ydych chwithau, yn rhai wedi eich galw ac yn eiddo i Iesu Grist. Yr wyf yn cyfarch pawb yn Rhufain sydd yn annwyl gan Dduw, a thrwy ei alwad ef yn saint. Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist. Yn gyntaf oll, yr wyf yn diolch i'm Duw, trwy Iesu Grist, amdanoch chwi oll, oherwydd y mae'r sôn am eich ffydd yn cerdded trwy'r holl fyd. Y mae Duw, yr un y mae fy ysbryd yn ei wasanaethu yn Efengyl ei Fab, yn dyst i mi mor ddi-baid y byddaf bob amser yn eich galw i gof yn fy ngweddïau wrth ofyn ganddo, os dyna'i ewyllys, a gaf fi yn awr o'r diwedd, rywsut neu'i gilydd, rwydd hynt i ddod atoch. Oherwydd y mae hiraeth arnaf am eich gweld, er mwyn eich cynysgaeddu â rhyw ddawn ysbrydol i'ch cadarnhau; neu yn hytrach, os caf esbonio, i mi, yn eich cymdeithas, gael fy nghalonogi ynghyd â chwi trwy'r ffydd sy'n gyffredin i'r naill a'r llall ohonom. Yr wyf am i chwi wybod, fy nghyfeillion, imi fwriadu lawer gwaith ddod atoch, er mwyn cael peth ffrwyth yn eich plith chwi fel y cefais ymhlith y rhelyw o'r Cenhedloedd, ond hyd yma yr wyf wedi fy rhwystro. Groegiaid a barbariaid, doethion ac annoethion—yr wyf dan rwymedigaeth iddynt oll. A dyma'r rheswm fy mod i mor eiddgar i bregethu'r Efengyl i chwithau sydd yn Rhufain. Nid oes arnaf gywilydd o'r Efengyl, oherwydd gallu Duw yw hi ar waith er iachawdwriaeth i bob un sy'n credu, yr Iddewon yn gyntaf a hefyd y Groegiaid. Ynddi hi y datguddir cyfiawnder Duw, a hynny trwy ffydd o'r dechrau i'r diwedd, fel y mae'n ysgrifenedig: “Y sawl sydd trwy ffydd yn gyfiawn a gaiff fyw.” Y mae digofaint Duw yn cael ei ddatguddio o'r nef yn erbyn holl annuwioldeb ac anghyfiawnder pobl sydd, trwy eu hanghyfiawnder, yn atal y gwirionedd. Oherwydd y mae'r hyn y gellir ei wybod am Dduw yn amlwg iddynt, a Duw sydd wedi ei amlygu iddynt. Yn wir, er pan greodd Duw y byd, y mae ei briodoleddau anweledig ef, ei dragwyddol allu a'i dduwdod, i'w gweld yn eglur gan y deall yn y pethau a greodd. Am hynny, y maent yn ddiesgus. Oherwydd, er iddynt wybod am Dduw, nid ydynt wedi rhoi gogoniant na diolch iddo fel Duw, ond yn hytrach wedi troi eu meddyliau at bethau cwbl ofer; ac y mae wedi mynd yn dywyllwch arnynt yn eu calon ddiddeall. Er honni eu bod yn ddoeth, y maent wedi eu gwneud eu hunain yn ffyliaid. Y maent wedi ffeirio gogoniant yr anfarwol Dduw am ddelw ar lun dyn marwol, neu adar neu anifeiliaid neu ymlusgiaid. Am hynny, y mae Duw wedi eu traddodi, trwy chwantau eu calonnau, i gaethiwed aflendid, i'w cyrff gael eu hamharchu ganddynt hwy eu hunain. Y maent wedi ffeirio gwirionedd Duw am anwiredd, ac addoli a gwasanaethu'r hyn a grewyd yn lle'r Creawdwr. Bendigedig yw ef am byth! Amen. Felly y mae Duw wedi eu traddodi i nwydau gwarthus. Y mae eu merched wedi cefnu ar arfer naturiol eu rhyw, ac wedi troi at arferion annaturiol; a'r dynion yr un modd, y maent wedi gadael heibio gyfathrach naturiol â merch, gan losgi yn eu blys am ei gilydd, dynion yn cyflawni bryntni ar ddynion, ac yn derbyn ynddynt eu hunain y tâl anochel am eu camwedd. Am iddynt wrthod cydnabod Duw, y mae Duw wedi eu traddodi i feddwl gwyrdroëdig, i wneud y pethau na ddylid eu gwneud, a hwythau yn gyforiog o bob math o anghyfiawnder a drygioni a thrachwant ac anfadwaith. Y maent yn llawn cenfigen, llofruddiaeth, cynnen, cynllwyn a malais. Clepgwn ydynt, a difenwyr, caseion Duw, pobl ryfygus a thrahaus ac ymffrostgar, dyfeiswyr drygioni, anufudd i'w rhieni, heb ddeall, heb deyrngarwch, heb serch, heb dosturi. Yr oedd gorchymyn cyfiawn Duw, fod y sawl sy'n cyflawni'r fath droseddau yn teilyngu marwolaeth, yn gwbl hysbys i'r rhai hyn; ond y maent nid yn unig yn dal i'w gwneud, ond hefyd yn cymeradwyo'r sawl sydd yn eu cyflawni.
Rhufeiniaid 1:1-32 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Llythyr gan Paul – gwas y Meseia Iesu. Dw i wedi cael fy newis gan Dduw i fod yn gynrychiolydd personol iddo, ac wedi cael fy anfon allan i rannu newyddion da Duw. Dyma’r newyddion da gafodd ei addo ymlaen llaw drwy beth ddwedodd y proffwydi yn yr ysgrifau sanctaidd. Ie, y newyddion da am ei Fab, Iesu y Meseia, ein Harglwydd ni. Fel dyn, roedd Iesu yn perthyn i deulu y Brenin Dafydd, ond dangosodd yr Ysbryd Glân mewn ffordd rymus ei fod e hefyd yn Fab Duw, pan gafodd ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw. Mae Duw wedi rhoi i ni y fraint a’r cyfrifoldeb o’i gynrychioli, ac o alw pobl o bob gwlad i gredu ynddo ac i fyw’n ufudd iddo. A dych chi’n rhai o’r bobl hynny – wedi cael eich galw i berthynas â Iesu y Meseia. Dw i’n ysgrifennu atoch chi i gyd yn Rhufain. Chi sydd wedi’ch caru gan Dduw a’ch gwneud yn bobl arbennig iddo. Dw i’n gweddïo y byddwch chi’n profi’r haelioni rhyfeddol a’r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni. Dw i eisiau i chi wybod yn gyntaf fy mod i’n diolch i Dduw drwy Iesu y Meseia amdanoch chi i gyd, achos mae pobl drwy’r gwledydd i gyd yn sôn am eich ffydd chi. Dw i wrthi’n gweithio fy ngorau glas dros Dduw drwy gyhoeddi’r newyddion da am ei Fab, ac mae e’n gwybod mod i’n gweddïo drosoch chi o hyd ac o hyd. Dw i’n gweddïo y bydd e’n ei gwneud hi’n bosib i mi ddod atoch chi o’r diwedd. Dw i wir yn hiraethu am gael dod i’ch gweld chi, i mi gael rhannu rhyw fendith ysbrydol gyda chi fydd yn eich gwneud chi’n gryf. Byddwn i a chithau’n cael ein calonogi wrth i ni rannu’n profiadau. Dw i am i chi ddeall, frodyr a chwiorydd annwyl, fy mod i wedi bwriadu dod atoch lawer gwaith, ond mae rhywbeth wedi fy rhwystro bob tro hyd yn hyn. Dw i eisiau gweld mwy a mwy o bobl Rhufain yn dod i gredu yn Iesu, fel sydd wedi digwydd yn y gwledydd eraill lle dw i wedi bod. Mae’n rhaid i mi ddweud am Iesu wrth bawb – mae fel petai gen i ddyled i’w thalu! Dim ots os ydyn nhw’n bobl ddiwylliedig sydd wedi cael addysg neu’n farbariaid cwbl ddi-addysg. A dyna pam dw i mor awyddus i ddod atoch chi yn Rhufain hefyd i gyhoeddi’r newyddion da. Does gen i ddim cywilydd o’r newyddion da o gwbl. Dyma’r ffordd rymus mae Duw’n gweithio i achub pawb sy’n credu – yr Iddew a phawb arall hefyd. Dyma’r newyddion da sy’n dangos i ni sut allwn ni gael perthynas iawn â Duw. Yr unig beth sydd ei angen ydy credu ei fod e’n ffyddlon. Dyna mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud: “Drwy ffydd mae’r un sy’n iawn gyda Duw yn byw.” Ond mae Duw yn y nefoedd yn dangos ei fod yn ddig ac yn cosbi’r holl bethau drwg mae pobl yn eu gwneud yn ei erbyn. Maen nhw’n mygu’r gwirionedd gyda’u drygioni. Mae beth sydd i’w wybod am Dduw yn amlwg – mae Duw wedi’i wneud yn ddigon clir i bawb. Er bod Duw ei hun yn anweledig, mae’r holl bethau mae wedi’u creu yn dangos yn glir mai fe ydy’r Duw go iawn a bod ei allu yn ddi-ben-draw. Felly does gan neb esgus dros beidio credu! Ond y drwg ydy, er bod pobl yn gwybod fod Duw’n bodoli, maen nhw wedi gwrthod ei anrhydeddu a diolch iddo. Yn lle hynny maen nhw wedi hel pob math o syniadau dwl. Maen nhw wir yn y tywyllwch. Ydyn, maen nhw’n meddwl eu bod nhw mor glyfar, ond ffyliaid ydyn nhw go iawn! Yn lle addoli’r Duw bendigedig sy’n byw am byth bythoedd, maen nhw wedi dewis plygu o flaen delwau wedi’u cerfio i edrych fel pethau fydd yn marw – pobl, adar, anifeiliaid ac ymlusgiaid. Felly mae Duw wedi gadael iddyn nhw fynd eu ffordd eu hunain. Maen nhw wedi dewis gwneud pob math o bethau mochaidd, ac amharchu eu cyrff gyda’i gilydd. Maen nhw wedi credu celwydd yn lle credu beth sy’n wir am Dduw! Maen nhw’n addoli a gwasanaethu pethau sydd wedi cael eu creu yn lle addoli’r Crëwr ei hun! – yr Un sy’n haeddu ei foli am byth! Amen! Ydy, mae Duw wedi gadael i bobl ddilyn eu chwantau gwarthus. Merched yn dewis gwneud beth sy’n annaturiol yn lle cael perthynas rywiol gyda dyn; a dynion hefyd, yn dewis troi cefn ar y berthynas naturiol gyda merch ac yn llosgi o chwant rhywiol am ei gilydd! Maen nhw’n gwneud pethau cwbl anweddus, ac yn wynebu’r gosb maen nhw’n ei haeddu. Am fod pobl wedi gwrthod credu beth sy’n wir am Dduw, mae e wedi gadael iddyn nhw ddilyn eu syniadau pwdr. Maen nhw’n gwneud popeth o’i le – ymddwyn yn anghyfiawn, gwneud pethau drwg, bod yn farus a hunanol, bod yn faleisus, cenfigennu, llofruddio, cecru, twyllo, bod yn sbeitlyd a hel straeon am bobl eraill. Maen nhw’n enllibio pobl, yn casáu Duw, yn haerllug, yn snobyddlyd a hunanbwysig, ac yn meddwl o hyd am ryw ffordd newydd i bechu. Does ganddyn nhw ddim parch at eu rhieni, dydyn nhw’n deall dim, maen nhw’n torri eu gair, yn ddiserch ac yn dangos dim trugaredd. Maen nhw’n gwybod yn iawn fod Duw wedi dweud fod pawb sy’n gwneud y pethau yma yn haeddu marw. Ond maen nhw’n dal ati er hynny, ac yn waeth fyth yn annog pobl eraill i wneud yr un fath â nhw!
Rhufeiniaid 1:1-32 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Paul, gwasanaethwr Iesu Grist, wedi ei alw i fod yn apostol, ac wedi ei neilltuo i efengyl Duw, (Yr hon a ragaddawsai efe trwy ei broffwydi yn yr ysgrythurau sanctaidd,) Am ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni, yr hwn a wnaed o had Dafydd o ran y cnawd; Ac a eglurwyd yn Fab Duw mewn gallu, yn ôl ysbryd sancteiddiad, trwy’r atgyfodiad oddi wrth y meirw: Trwy’r hwn y derbyniasom ras ac apostoliaeth, i ufudd-dod ffydd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ei enw ef: Ymysg y rhai yr ydych chwithau yn alwedigion Iesu Grist: At bawb sydd yn Rhufain, yn annwyl gan Dduw, wedi eu galw i fod yn saint: Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist. Yn gyntaf, yr wyf yn diolch i’m Duw trwy Iesu Grist drosoch chwi oll, oblegid bod eich ffydd chwi yn gyhoeddus yn yr holl fyd. Canys tyst i mi yw Duw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu yn fy ysbryd yn efengyl ei Fab ef, fy mod i yn ddi-baid yn gwneuthur coffa ohonoch bob amser yn fy ngweddïau, Gan ddeisyf a gawn ryw fodd, ryw amser bellach, rwydd hynt gydag ewyllys Duw i ddyfod atoch chwi. Canys yr wyf yn hiraethu am eich gweled, fel y gallwyf gyfrannu i chwi ryw ddawn ysbrydol, fel y’ch cadarnhaer: A hynny sydd i’m cydymgysuro ynoch chwi, trwy ffydd ein gilydd, yr eiddoch chwi a’r eiddof finnau. Eithr ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod atoch, (ond fo’m lluddiwyd i hyd yn hyn,) fel y cawn ryw ffrwyth ynoch chwi hefyd, megis ag yn y Cenhedloedd eraill. Dyledwr ydwyf i’r Groegiaid, ac i’r barbariaid hefyd; i’r doethion, ac i’r annoethion hefyd. Felly, hyd y mae ynof fi, parod ydwyf i bregethu’r efengyl i chwithau hefyd y rhai ydych yn Rhufain. Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist: oblegid gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un a’r sydd yn credu; i’r Iddew yn gyntaf, a hefyd i’r Groegwr. Canys ynddi hi y datguddir cyfiawnder Duw o ffydd i ffydd; megis y mae yn ysgrifenedig, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd. Canys digofaint Duw a ddatguddiwyd o’r nef yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion, y rhai sydd yn atal y gwirionedd mewn anghyfiawnder. Oherwydd yr hyn a ellir ei wybod am Dduw, sydd eglur ynddynt hwy: canys Duw a’i heglurodd iddynt. Canys ei anweledig bethau ef er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg, sef ei dragwyddol allu ef a’i Dduwdod; hyd onid ydynt yn ddiesgus: Oblegid a hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megis Duw, ac na buont ddiolchgar iddo; eithr ofer fuont yn eu rhesymau, a’u calon anneallus hwy a dywyllwyd. Pan dybient eu bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid; Ac a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw i gyffelybiaeth llun dyn llygredig, ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwarcarnol, ac ymlusgiaid. O ba herwydd Duw hefyd a’u rhoddes hwy i fyny, yn nhrachwantau eu calonnau, i aflendid, i amherchi eu cyrff eu hun yn eu plith eu hunain: Y rhai a newidiasant wirionedd Duw yn gelwydd, ac a addolasant ac a wasanaethasant y creadur yn fwy na’r Creawdwr, yr hwn sydd fendigedig yn dragwyddol. Amen. Oblegid hyn y rhoddes Duw hwynt i fyny i wyniau gwarthus: canys eu gwragedd hwy a newidiasant yr arfer anianol i’r hon sydd yn erbyn anian: Ac yn gyffelyb y gwŷr hefyd, gan adael yr arfer naturiol o’r wraig, a ymlosgent yn eu hawydd i’w gilydd; y gwŷr ynghyd â gwŷr yn gwneuthur brynti, ac yn derbyn ynddynt eu hunain y cyfryw dâl am eu cyfeiliorni ag ydoedd raid. Ac megis nad oedd gymeradwy ganddynt gadw Duw yn eu gwybodaeth, Duw a’u rhoddes hwynt i fyny i feddwl anghymeradwy, i wneuthur y pethau nid oedd weddaidd: Wedi eu llenwi â phob anghyfiawnder, godineb, anwiredd, cybydd-dod, drygioni; yn llawn cenfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll, drwg anwydau; Yn hustyngwyr, yn athrodwyr, yn gas ganddynt Dduw, yn drahaus, yn feilchion, yn ffrostwyr, yn ddychmygwyr drygioni, yn anufudd i rieni, Yn anneallus, yn dorwyr amod, yn angharedig, yn anghymodlon, yn anhrugarogion: Y rhai yn gwybod cyfiawnder Duw, fod y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth, ydynt nid yn unig yn gwneuthur y pethau hyn, eithr hefyd yn cydymfodloni â’r rhai sydd yn eu gwneuthur hwynt.