Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 1:1-13

Rhufeiniaid 1:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Llythyr gan Paul – gwas y Meseia Iesu. Dw i wedi cael fy newis gan Dduw i fod yn gynrychiolydd personol iddo, ac wedi cael fy anfon allan i rannu newyddion da Duw. Dyma’r newyddion da gafodd ei addo ymlaen llaw drwy beth ddwedodd y proffwydi yn yr ysgrifau sanctaidd. Ie, y newyddion da am ei Fab, Iesu y Meseia, ein Harglwydd ni. Fel dyn, roedd Iesu yn perthyn i deulu y Brenin Dafydd, ond dangosodd yr Ysbryd Glân mewn ffordd rymus ei fod e hefyd yn Fab Duw, pan gafodd ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw. Mae Duw wedi rhoi i ni y fraint a’r cyfrifoldeb o’i gynrychioli, ac o alw pobl o bob gwlad i gredu ynddo ac i fyw’n ufudd iddo. A dych chi’n rhai o’r bobl hynny – wedi cael eich galw i berthynas â Iesu y Meseia. Dw i’n ysgrifennu atoch chi i gyd yn Rhufain. Chi sydd wedi’ch caru gan Dduw a’ch gwneud yn bobl arbennig iddo. Dw i’n gweddïo y byddwch chi’n profi’r haelioni rhyfeddol a’r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni. Dw i eisiau i chi wybod yn gyntaf fy mod i’n diolch i Dduw drwy Iesu y Meseia amdanoch chi i gyd, achos mae pobl drwy’r gwledydd i gyd yn sôn am eich ffydd chi. Dw i wrthi’n gweithio fy ngorau glas dros Dduw drwy gyhoeddi’r newyddion da am ei Fab, ac mae e’n gwybod mod i’n gweddïo drosoch chi o hyd ac o hyd. Dw i’n gweddïo y bydd e’n ei gwneud hi’n bosib i mi ddod atoch chi o’r diwedd. Dw i wir yn hiraethu am gael dod i’ch gweld chi, i mi gael rhannu rhyw fendith ysbrydol gyda chi fydd yn eich gwneud chi’n gryf. Byddwn i a chithau’n cael ein calonogi wrth i ni rannu’n profiadau. Dw i am i chi ddeall, frodyr a chwiorydd annwyl, fy mod i wedi bwriadu dod atoch lawer gwaith, ond mae rhywbeth wedi fy rhwystro bob tro hyd yn hyn. Dw i eisiau gweld mwy a mwy o bobl Rhufain yn dod i gredu yn Iesu, fel sydd wedi digwydd yn y gwledydd eraill lle dw i wedi bod.

Rhufeiniaid 1:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Paul, gwas Crist Iesu, sy'n ysgrifennu, apostol trwy alwad Duw, ac wedi ei neilltuo i wasanaeth Efengyl Duw. Addawodd Duw yr Efengyl hon ymlaen llaw trwy ei broffwydi yn yr Ysgrythurau sanctaidd, Efengyl am ei Fab: yn nhrefn y cnawd, ganwyd ef yn llinach Dafydd; ond yn nhrefn sanctaidd yr Ysbryd, cyhoeddwyd ef yn Fab Duw, â mawr allu, trwy atgyfodiad o farwolaeth. Dyma Iesu Grist ein Harglwydd. Trwyddo ef derbyniasom ras a swydd apostol, i ennill, ar ei ran, ffydd ac ufudd-dod ymhlith yr holl Genhedloedd. Ymhlith y rhain yr ydych chwithau, yn rhai wedi eich galw ac yn eiddo i Iesu Grist. Yr wyf yn cyfarch pawb yn Rhufain sydd yn annwyl gan Dduw, a thrwy ei alwad ef yn saint. Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist. Yn gyntaf oll, yr wyf yn diolch i'm Duw, trwy Iesu Grist, amdanoch chwi oll, oherwydd y mae'r sôn am eich ffydd yn cerdded trwy'r holl fyd. Y mae Duw, yr un y mae fy ysbryd yn ei wasanaethu yn Efengyl ei Fab, yn dyst i mi mor ddi-baid y byddaf bob amser yn eich galw i gof yn fy ngweddïau wrth ofyn ganddo, os dyna'i ewyllys, a gaf fi yn awr o'r diwedd, rywsut neu'i gilydd, rwydd hynt i ddod atoch. Oherwydd y mae hiraeth arnaf am eich gweld, er mwyn eich cynysgaeddu â rhyw ddawn ysbrydol i'ch cadarnhau; neu yn hytrach, os caf esbonio, i mi, yn eich cymdeithas, gael fy nghalonogi ynghyd â chwi trwy'r ffydd sy'n gyffredin i'r naill a'r llall ohonom. Yr wyf am i chwi wybod, fy nghyfeillion, imi fwriadu lawer gwaith ddod atoch, er mwyn cael peth ffrwyth yn eich plith chwi fel y cefais ymhlith y rhelyw o'r Cenhedloedd, ond hyd yma yr wyf wedi fy rhwystro.

Rhufeiniaid 1:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Paul, gwasanaethwr Iesu Grist, wedi ei alw i fod yn apostol, ac wedi ei neilltuo i efengyl Duw, (Yr hon a ragaddawsai efe trwy ei broffwydi yn yr ysgrythurau sanctaidd,) Am ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni, yr hwn a wnaed o had Dafydd o ran y cnawd; Ac a eglurwyd yn Fab Duw mewn gallu, yn ôl ysbryd sancteiddiad, trwy’r atgyfodiad oddi wrth y meirw: Trwy’r hwn y derbyniasom ras ac apostoliaeth, i ufudd-dod ffydd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ei enw ef: Ymysg y rhai yr ydych chwithau yn alwedigion Iesu Grist: At bawb sydd yn Rhufain, yn annwyl gan Dduw, wedi eu galw i fod yn saint: Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist. Yn gyntaf, yr wyf yn diolch i’m Duw trwy Iesu Grist drosoch chwi oll, oblegid bod eich ffydd chwi yn gyhoeddus yn yr holl fyd. Canys tyst i mi yw Duw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu yn fy ysbryd yn efengyl ei Fab ef, fy mod i yn ddi-baid yn gwneuthur coffa ohonoch bob amser yn fy ngweddïau, Gan ddeisyf a gawn ryw fodd, ryw amser bellach, rwydd hynt gydag ewyllys Duw i ddyfod atoch chwi. Canys yr wyf yn hiraethu am eich gweled, fel y gallwyf gyfrannu i chwi ryw ddawn ysbrydol, fel y’ch cadarnhaer: A hynny sydd i’m cydymgysuro ynoch chwi, trwy ffydd ein gilydd, yr eiddoch chwi a’r eiddof finnau. Eithr ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod atoch, (ond fo’m lluddiwyd i hyd yn hyn,) fel y cawn ryw ffrwyth ynoch chwi hefyd, megis ag yn y Cenhedloedd eraill.