Datguddiad 7:15-16
Datguddiad 7:15-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyna pam maen nhw yma’n sefyll o flaen gorsedd Duw, ac yn ei wasanaethu yn ei deml ddydd a nos. Bydd yr Un sy’n eistedd ar yr orsedd yn eu cadw nhw’n saff. Fyddan nhw byth eto’n dioddef o newyn na syched. Fyddan nhw byth eto yn cael eu llethu gan yr haul na gwynt poeth yr anialwch.
Datguddiad 7:15-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Am hynny, y maent o flaen gorsedd Duw, ac yn ei wasanaethu ddydd a nos yn ei deml, a bydd yr hwn sy'n eistedd ar yr orsedd yn lloches iddynt. Ni newynant mwy ac ni sychedant mwy, ni ddaw ar eu gwarthaf na'r haul na dim gwres
Datguddiad 7:15-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oherwydd hynny y maent gerbron gorseddfainc Duw, ac yn ei wasanaethu ef ddydd a nos yn ei deml: a’r hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc a drig yn eu plith hwynt. Ni fydd arnynt na newyn mwyach, na syched mwyach; ac ni ddisgyn arnynt na’r haul, na dim gwres.