Datguddiad 7:1-17
Datguddiad 7:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wedyn ces i weledigaeth arall. Roedd pedwar angel yn sefyll ar gyrion eithaf y ddaear – gogledd, de, dwyrain a gorllewin. Roedden nhw’n dal y pedwar gwynt yn ôl. Doedd dim gwynt yn chwythu ar dir na môr, nac ar unrhyw goeden. Wedyn dyma fi’n gweld angel arall yn codi o gyfeiriad y dwyrain. Roedd sêl y Duw byw ganddo, a gwaeddodd yn uchel ar y pedwar angel oedd wedi cael y gallu i wneud niwed i’r tir a’r môr: “Peidiwch gwneud niwed i’r tir na’r môr na’r coed nes i ni roi marc gyda sêl Duw ar dalcen y rhai sy’n ei wasanaethu.” Yna clywais faint o bobl oedd i gael eu marcio gyda’r sêl: cant pedwar deg pedwar o filoedd o bobl llwythau Israel: Cafodd deuddeg mil eu marcio o lwyth Jwda, deuddeg mil o lwyth Reuben, deuddeg mil o lwyth Gad, deuddeg mil o lwyth Aser, deuddeg mil o lwyth Nafftali, deuddeg mil o lwyth Manasse, deuddeg mil o lwyth Simeon, deuddeg mil o lwyth Lefi, deuddeg mil o lwyth Issachar, deuddeg mil o lwyth Sabulon, deuddeg mil o lwyth Joseff, a deuddeg mil o lwyth Benjamin. Edrychais eto ac roedd tyrfa enfawr o bobl o mlaen i – tyrfa mor aruthrol fawr, doedd dim gobaith i neb hyd yn oed ddechrau eu cyfri! Roedden nhw’n dod o bob cenedl, llwyth, hil ac iaith, ac yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen. Roedden nhw’n gwisgo mentyll gwynion, ac roedd canghennau palmwydd yn eu dwylo. Roedden nhw’n gweiddi’n uchel: “Ein Duw sydd wedi’n hachub ni! – yr Un sy’n eistedd ar yr orsedd, a’r Oen!” Roedd yr holl angylion yn sefyll o gwmpas yr orsedd ac o gwmpas yr arweinwyr ysbrydol a’r pedwar creadur byw. A dyma nhw’n syrthio i lawr ar eu hwynebau o flaen yr orsedd ac yn addoli Duw, gan ddweud: “Amen! Y mawl a’r ysblander, y doethineb a’r diolch, yr anrhydedd a’r gallu a’r nerth – Duw biau’r cwbl oll, am byth bythoedd! Amen!” Yna dyma un o’r arweinyddion ysbrydol yn gofyn i mi, “Wyt ti’n gwybod pwy ydy’r bobl hyn sy’n gwisgo mentyll gwynion, ac o ble maen nhw wedi dod?” “Na, ti sy’n gwybod, syr”, meddwn innau. Yna meddai, “Dyma’r bobl sydd wedi dioddef yn y creisis mawr olaf. Maen nhw wedi golchi eu dillad yn lân yng ngwaed yr Oen. Dyna pam maen nhw yma’n sefyll o flaen gorsedd Duw, ac yn ei wasanaethu yn ei deml ddydd a nos. Bydd yr Un sy’n eistedd ar yr orsedd yn eu cadw nhw’n saff. Fyddan nhw byth eto’n dioddef o newyn na syched. Fyddan nhw byth eto yn cael eu llethu gan yr haul na gwynt poeth yr anialwch. Oherwydd bydd yr Oen sydd wrth yr orsedd yn gofalu amdanyn nhw fel bugail, ac yn eu harwain nhw at ffynhonnau o ddŵr ffres y bywyd. A bydd Duw yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw.”
Datguddiad 7:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar ôl hyn gwelais bedwar angel yn sefyll ar bedair congl y ddaear yn dal pedwar gwynt y ddaear, i gadw'r gwynt rhag chwythu ar y ddaear nac ar y môr nac ar un goeden. A gwelais angel arall yn esgyn o godiad haul, a chanddo sêl y Duw byw. Gwaeddodd â llais uchel ar y pedwar angel y rhoddwyd iddynt awdurdod i niweidio'r ddaear a'r môr, a dywedodd: “Peidiwch â niweidio na'r ddaear na'r môr na'r coed nes inni selio gweision ein Duw ar eu talcennau.” A chlywais rif y rhai a seliwyd, cant pedwar deg a phedair o filoedd wedi eu selio, o bob un o lwythau plant Israel. O lwyth Jwda yr oedd deuddeng mil wedi eu selio, o lwyth Reuben deuddeng mil, o lwyth Gad deuddeng mil, o lwyth Aser deuddeng mil, o lwyth Nafftali deuddeng mil, o lwyth Manasse deuddeng mil, o lwyth Simeon deuddeng mil, o lwyth Lefi deuddeng mil, o lwyth Issachar deuddeng mil, o lwyth Sabulon deuddeng mil, o lwyth Joseff deuddeng mil, ac o lwyth Benjamin deuddeng mil wedi eu selio. Ar ôl hyn edrychais, ac wele dyrfa fawr na allai neb ei rhifo, o bob cenedl a'r holl lwythau a phobloedd ac ieithoedd, yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen, wedi eu gwisgo â mentyll gwyn, a phalmwydd yn eu dwylo. Yr oeddent yn gweiddi â llais uchel: “I'n Duw ni, sy'n eistedd ar yr orsedd, ac i'r Oen y perthyn y waredigaeth!” Yr oedd yr holl angylion yn sefyll o amgylch yr orsedd a'r henuriaid a'r pedwar creadur byw, a syrthiasant ar eu hwynebau gerbron yr orsedd ac addoli Duw gan ddweud: “Amen. I'n Duw ni y bo'r mawl a'r gogoniant a'r doethineb a'r diolch a'r anrhydedd a'r gallu a'r nerth byth bythoedd! Amen.” Gofynnodd un o'r henuriaid imi, “Y rhai hyn sydd wedi eu gwisgo â mentyll gwyn, pwy ydynt ac o ble y daethant?” Dywedais wrtho, “Ti sy'n gwybod, f'arglwydd.” Meddai yntau wrthyf, “Dyma'r rhai sy'n dod allan o'r gorthrymder mawr; y maent wedi golchi eu mentyll a'u cannu yng ngwaed yr Oen. “Am hynny, y maent o flaen gorsedd Duw, ac yn ei wasanaethu ddydd a nos yn ei deml, a bydd yr hwn sy'n eistedd ar yr orsedd yn lloches iddynt. Ni newynant mwy ac ni sychedant mwy, ni ddaw ar eu gwarthaf na'r haul na dim gwres, oherwydd bydd yr Oen sydd yng nghanol yr orsedd yn eu bugeilio hwy, ac yn eu harwain i ffynhonnau dyfroedd bywyd, a bydd Duw yn sychu pob deigryn o'u llygaid hwy.”
Datguddiad 7:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac ar ôl y pethau hyn, mi a welais bedwar angel yn sefyll ar bedair congl y ddaear, yn dal pedwar gwynt y ddaear, fel na chwythai’r gwynt ar y ddaear, nac ar y môr, nac ar un pren. Ac mi a welais angel arall yn dyfod i fyny oddi wrth godiad haul, a sêl y Duw byw ganddo. Ac efe a lefodd â llef uchel ar y pedwar angel, i’r rhai y rhoddasid gallu i ddrygu’r ddaear a’r môr, Gan ddywedyd, Na ddrygwch y ddaear, na’r môr, na’r prennau, nes darfod i ni selio gwasanaethwyr ein Duw ni yn eu talcennau. Ac mi a glywais nifer y rhai a seliwyd: yr oedd wedi eu selio gant a phedair a deugain o filoedd o holl lwythau meibion Israel. O lwyth Jwda yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Reuben yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Gad yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Aser yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Neffthali yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Manasses yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Simeon yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Lefi yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Issachar yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Sabulon yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Joseff yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Benjamin yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. Wedi hyn mi a edrychais; ac wele dyrfa fawr, yr hon ni allai neb ei rhifo, o bob cenedl, a llwythau, a phobloedd, ac ieithoedd, yn sefyll gerbron yr orseddfainc, a cherbron yr Oen, wedi eu gwisgo mewn gynau gwynion, a phalmwydd yn eu dwylo; Ac yn llefain â llef uchel, gan ddywedyd, Iachawdwriaeth i’n Duw ni, yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac i’r Oen. A’r holl angylion a safasant o amgylch yr orseddfainc, a’r henuriaid, a’r pedwar anifail, ac a syrthiasant gerbron yr orseddfainc ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw, Gan ddywedyd, Amen: Y fendith, a’r gogoniant, a’r doethineb, a’r diolch, a’r anrhydedd, a’r gallu, a’r nerth, a fyddo i’n Duw ni yn oes oesoedd. Amen. Ac un o’r henuriaid a atebodd, gan ddywedyd wrthyf, Pwy ydyw’r rhai hyn sydd wedi eu gwisgo mewn gynau gwynion? ac o ba le y daethant? Ac mi a ddywedais wrtho ef, Arglwydd, ti a wyddost. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y rhai hyn yw’r rhai a ddaethant allan o’r cystudd mawr, ac a olchasant eu gynau, ac a’u canasant hwy yng ngwaed yr Oen. Oherwydd hynny y maent gerbron gorseddfainc Duw, ac yn ei wasanaethu ef ddydd a nos yn ei deml: a’r hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc a drig yn eu plith hwynt. Ni fydd arnynt na newyn mwyach, na syched mwyach; ac ni ddisgyn arnynt na’r haul, na dim gwres. Oblegid yr Oen, yr hwn sydd yng nghanol yr orseddfainc, a’u bugeilia hwynt, ac a’u harwain hwynt at ffynhonnau bywiol o ddyfroedd: a Duw a sych ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt.