Datguddiad 6:15-17
Datguddiad 6:15-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Aeth pawb i guddio mewn ogofâu a thu ôl i greigiau yn y mynyddoedd – brenhinoedd a’u prif swyddogion, arweinwyr milwrol, pobl gyfoethog, pobl bwerus, caethweision, dinasyddion rhydd – pawb! Roedden nhw’n gweiddi ar y mynyddoedd a’r creigiau, “Syrthiwch arnon ni a’n cuddio ni o olwg yr Un sy’n eistedd ar yr orsedd, ac oddi wrth ddigofaint yr Oen! Mae’r diwrnod mawr iddo ddangos mor ddig ydy e wedi dod! Pa obaith sydd i unrhyw un?”
Datguddiad 6:15-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A brenhinoedd y ddaear, y mawrion a'r cadfridogion, y cyfoethogion a'r cryfion, a phawb, yn gaethion ac yn rhyddion, cuddiasant eu hunain mewn ogofeydd ac yng nghreigiau'r mynyddoedd; a dywedasant wrth y mynyddoedd a'r creigiau, “Syrthiwch arnom, a chuddiwch ni rhag wyneb yr hwn sy'n eistedd ar yr orsedd a rhag digofaint yr Oen, oherwydd daeth dydd mawr eu digofaint hwy, a phwy all sefyll?”
Datguddiad 6:15-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A brenhinoedd y ddaear, a’r gwŷr mawr, a’r cyfoethogion, a’r pen-capteiniaid, a’r gwŷr cedyrn, a phob gŵr caeth, a phob gŵr rhydd, a ymguddiasant yn yr ogofeydd, ac yng nghreigiau’r mynyddoedd; Ac a ddywedasant wrth y mynyddoedd a’r creigiau, Syrthiwch arnom ni, a chuddiwch ni o ŵydd yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac oddi wrth lid yr Oen: Canys daeth dydd mawr ei ddicter ef; a phwy a ddichon sefyll?