Datguddiad 6:10-11
Datguddiad 6:10-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedden nhw’n gweiddi’n uchel, “O Feistr Sofran, sanctaidd a gwir! Faint mwy sydd raid i ni aros cyn i ti farnu’r bobl sy’n perthyn i’r ddaear, a dial arnyn nhw am ein lladd ni?” Yna dyma fantell wen yn cael ei rhoi i bob un ohonyn nhw. A gofynnwyd iddyn nhw aros ychydig yn hirach, nes i nifer cyflawn y rhai oedd yn gwasanaethu gyda nhw gyrraedd, sef y brodyr a’r chwiorydd fyddai’n cael eu lladd fel cawson nhw eu lladd.
Datguddiad 6:10-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwaeddasant â llais uchel: “Pa hyd, Benllywydd sanctaidd a gwir, cyn i ti farnu, a dial ein gwaed ar drigolion y ddaear?” Yna rhoddwyd i bob un ohonynt fantell wen, a dywedwyd wrthynt am orffwys eto am ychydig amser hyd nes bod nifer eu cydweision a'u cymrodyr, a oedd i'w lladd fel hwythau, yn gyflawn.
Datguddiad 6:10-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hwy a lefasant â llef uchel, gan ddywedyd, Pa hyd, Arglwydd, sanctaidd a chywir, nad ydwyt yn barnu ac yn dial ein gwaed ni ar y rhai sydd yn trigo ar y ddaear? A gynau gwynion a roed i bob un ohonynt; a dywedwyd wrthynt, ar iddynt orffwys eto ychydig amser, hyd oni chyflawnid rhif eu cyd-weision a’u brodyr, y rhai oedd i gael eu lladd, megis ag y cawsent hwythau.