Datguddiad 6:1-4
Datguddiad 6:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Rôn i’n gwylio’r Oen yn agor y gyntaf o’r saith sêl. A chlywais un o’r pedwar creadur byw yn galw’n uchel mewn llais oedd yn swnio fel taran, “Tyrd allan!” Yn sydyn roedd ceffyl gwyn o mlaen i, a marchog ar ei gefn yn cario bwa a saeth. Cafodd ei goroni, ac yna aeth i ffwrdd ar gefn y ceffyl fel un oedd yn mynd i goncro’r gelyn, yn benderfynol o ennill y frwydr. Pan agorodd yr Oen yr ail sêl, clywais yr ail greadur byw yn galw’n uchel, “Tyrd allan!” Yna daeth ceffyl arall allan – un fflamgoch. Cafodd y marchog ar ei gefn awdurdod i gymryd heddwch o’r byd fel bod pobl yn lladd ei gilydd. Dyma gleddyf mawr yn cael ei roi iddo.
Datguddiad 6:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Edrychais pan agorodd yr Oen y gyntaf o'r saith sêl, a chlywais y cyntaf o'r pedwar creadur byw yn dweud â llais fel taran, “Tyrd.” Edrychais, ac wele geffyl gwyn; yr oedd gan ei farchog fwa; rhoddwyd iddo goron, ac fe aeth allan fel concwerwr i ennill concwest. Pan agorodd yr Oen yr ail sêl, clywais yr ail greadur byw yn dweud, “Tyrd.” A daeth allan geffyl arall, fflamgoch; ac i farchog hwn rhoddwyd awdurdod i ddwyn heddwch oddi ar y ddaear a pheri i bobl ladd ei gilydd, a rhoddwyd iddo gleddyf mawr.
Datguddiad 6:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac mi a welais pan agorodd yr Oen un o’r seliau, ac mi a glywais un o’r pedwar anifail yn dywedyd, fel trwst taran, Tyred, a gwêl. Ac mi a welais; ac wele farch gwyn: a’r hwn oedd yn eistedd arno, a bwa ganddo; a rhoddwyd iddo goron: ac efe a aeth allan yn gorchfygu, ac i orchfygu. A phan agorodd efe yr ail sêl, mi a glywais yr ail anifail yn dywedyd, Tyred, a gwêl. Ac fe aeth allan farch arall, un coch: a’r hwn oedd yn eistedd arno, y rhoddwyd iddo gymryd heddwch oddi ar y ddaear, fel y lladdent ei gilydd: a rhoddwyd iddo ef gleddyf mawr.