Datguddiad 5:11-12
Datguddiad 5:11-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna yn y weledigaeth, clywais sŵn tyrfa enfawr o angylion – miloedd ar filoedd ohonyn nhw! … miliynau! Roedden nhw’n sefyll yn gylch o gwmpas yr orsedd a’r creaduriaid byw a’r arweinwyr ysbrydol, ac yn canu’n uchel: “Mae’r Oen gafodd ei ladd yn deilwng i dderbyn grym a chyfoeth, doethineb a nerth, anrhydedd, ysblander a mawl!”
Datguddiad 5:11-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna edrychais a chlywais lais angylion lawer; yr oeddent o amgylch yr orsedd a'r creaduriaid byw a'r henuriaid. A'u rhif oedd myrdd myrddiynau a miloedd ar filoedd. Meddent â llef uchel: “Teilwng yw'r Oen a laddwyd i dderbyn gallu, cyfoeth, doethineb a nerth, anrhydedd, gogoniant a mawl.”
Datguddiad 5:11-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac mi a edrychais, ac a glywais lais angylion lawer ynghylch yr orseddfainc, a’r anifeiliaid, a’r henuriaid: a’u rhifedi hwynt oedd fyrddiynau o fyrddiynau, a miloedd o filoedd; Yn dywedyd â llef uchel, Teilwng yw’r Oen, yr hwn a laddwyd, i dderbyn gallu, a chyfoeth, a doethineb, a chadernid, ac anrhydedd, a gogoniant, a bendith.