Datguddiad 5:1-10
Datguddiad 5:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna gwelais fod sgrôl yn llaw dde yr Un oedd yn eistedd ar yr orsedd. Roedd ysgrifen ar ddwy ochr y sgrôl ac roedd wedi’i selio â saith sêl. Wedyn gwelais angel pwerus yn cyhoeddi’n uchel, “Pwy sy’n deilwng i dorri’r seliau ar y sgrôl a’i hagor?” Ond doedd neb yn y nefoedd na’r ddaear na than y ddaear yn gallu agor y sgrôl i’w darllen. Dyma fi’n dechrau beichio crio am fod neb yn deilwng i agor y sgrôl a’i darllen. Ond dyma un o’r arweinyddion ysbrydol yn dweud wrtho i, “Stopia grio! Edrych! Mae’r Llew o lwyth Jwda, disgynnydd y Brenin Dafydd, wedi ennill y frwydr. Mae e’n gallu torri’r saith sêl ac agor y sgrôl.” Yna gwelais Oen oedd yn edrych fel petai wedi’i ladd. Roedd yn sefyll rhwng yr orsedd a’r pedwar creadur byw a’r arweinwyr ysbrydol oedd o’i chwmpas hi. Roedd ganddo saith corn a saith llygad (yn cynrychioli Ysbryd cyflawn perffaith Duw sydd wedi’i anfon allan drwy’r byd i gyd). Aeth i gymryd y sgrôl o law dde yr Un oedd yn eistedd ar yr orsedd. Ac wrth iddo gymryd y sgrôl, dyma’r pedwar creadur byw a’r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol yn syrthio i lawr ar eu hwynebau o flaen yr Oen. Roedd telyn gan bob un ohonyn nhw, ac roedden nhw’n dal powlenni aur yn llawn o arogldarth (sy’n cynrychioli gweddïau pobl Dduw). Roedden nhw’n canu cân newydd: “Rwyt ti’n deilwng i gymryd y sgrôl ac i dorri y seliau, am dy fod ti wedi cael dy ladd yn aberth, ac wedi prynu pobl i Dduw â’th waed – pobl o bob llwyth ac iaith, hil a chenedl. Rwyt wedi teyrnasu drostyn nhw a’u gwneud yn offeiriaid i wasanaethu ein Duw. Byddan nhw’n teyrnasu ar y ddaear.”
Datguddiad 5:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A gwelais yn llaw dde yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd sgrôl a'i hysgrifen ar yr wyneb ac ar y cefn, wedi ei selio â saith sêl. A gwelais angel nerthol yn cyhoeddi â llef uchel, “Pwy sydd deilwng i agor y sgrôl ac i ddatod ei seliau?” Nid oedd neb yn y nef nac ar y ddaear na than y ddaear a allai agor y sgrôl nac edrych arni. Yr oeddwn i'n wylo'n hidl am na chafwyd neb yn deilwng i agor y sgrôl nac i edrych arni. A dywedodd un o'r henuriaid wrthyf, “Paid ag wylo; wele, y mae'r Llew o lwyth Jwda, Gwreiddyn Dafydd, wedi gorchfygu ac ennill yr hawl i agor y sgrôl a'i saith sêl.” Gwelais Oen yn sefyll yn y canol, gyda'r pedwar creadur byw, rhwng yr orsedd a'r henuriaid. Yr oedd yr Oen fel un wedi ei ladd, ac yr oedd ganddo saith o gyrn a saith o lygaid; y rhain yw saith ysbryd Duw, sydd wedi eu hanfon i'r holl ddaear. Daeth yr Oen a chymryd y sgrôl o law dde yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd. Ac wedi iddo gymryd y sgrôl, syrthiodd y pedwar creadur byw a'r pedwar henuriad ar hugain o flaen yr Oen, ac yr oedd gan bob un ohonynt delyn, a ffiolau aur yn llawn o arogldarth; y rhain yw gweddïau'r saint. Ac yr oeddent yn canu cân newydd fel hyn: “Teilwng wyt ti i gymryd y sgrôl ac i agor ei seliau, oherwydd ti a laddwyd ac a brynaist i Dduw â'th waed rai o bob llwyth ac iaith a phobl a chenedl, a gwnaethost hwy yn urdd frenhinol ac yn offeiriaid i'n Duw ni; ac fe deyrnasant hwy ar y ddaear.”
Datguddiad 5:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac mi a welais yn neheulaw’r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, lyfr wedi ei ysgrifennu oddi fewn ac oddi allan wedi ei selio â saith sêl. Ac mi a welais angel cryf yn cyhoeddi â llef uchel, Pwy sydd deilwng i agoryd y llyfr, ac i ddatod ei seliau ef? Ac nid oedd neb yn y nef, nac yn y ddaear, na than y ddaear, yn gallu agoryd y llyfr, nac edrych arno. Ac mi a wylais lawer, o achos na chaed neb yn deilwng i agoryd ac i ddarllen y llyfr, nac i edrych arno. Ac un o’r henuriaid a ddywedodd wrthyf, Nac wyla: wele, y Llew yr hwn sydd o lwyth Jwda, Gwreiddyn Dafydd, a orchfygodd i agoryd y llyfr, ac i ddatod ei saith sêl ef. Ac mi a edrychais; ac wele, yng nghanol yr orseddfainc a’r pedwar anifail, ac yng nghanol yr henuriaid, yr oedd Oen yn sefyll megis wedi ei ladd, a chanddo saith gorn, a saith lygad, y rhai ydyw saith Ysbryd Duw, wedi eu danfon allan i’r holl ddaear. Ac efe a ddaeth, ac a gymerth y llyfr o ddeheulaw’r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc. A phan gymerth efe’r llyfr, y pedwar anifail a’r pedwar henuriad ar hugain a syrthiasant gerbron yr Oen; a chan bob un ohonynt yr oedd telynau, a ffiolau aur yn llawn o arogl-darth, y rhai ydyw gweddïau’r saint. A hwy a ganasant ganiad newydd, gan ddywedyd, Teilwng wyt ti i gymryd y llyfr, ac i agoryd ei seliau ef: oblegid ti a laddwyd, ac a’n prynaist ni i Dduw trwy dy waed, allan o bob llwyth, ac iaith, a phobl, a chenedl; Ac a’n gwnaethost ni i’n Duw ni, yn frenhinoedd, ac yn offeiriaid: ac ni a deyrnaswn ar y ddaear.