Datguddiad 21:3-4
Datguddiad 21:3-4 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Wedyn clywais lais o’r orsedd yn cyhoeddi’n glir, “Bellach mae pabell Duw yng nghanol y bobloedd. Bydd yn byw yn eu canol nhw, a byddan nhw’n bobl iddo. Bydd Duw ei hun gyda nhw, a fe fydd eu Duw nhw. Bydd yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae pethau fel roedden nhw wedi mynd.”
Datguddiad 21:3-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Clywais lais uchel o'r orsedd yn dweud, “Wele, y mae preswylfa Duw gyda'r ddynoliaeth; bydd ef yn preswylio gyda hwy, byddant hwy yn bobloedd iddo ef, a bydd Duw ei hun gyda hwy, yn Dduw iddynt. Fe sych bob deigryn o'u llygaid hwy, ac ni bydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen. Y mae'r pethau cyntaf wedi mynd heibio.”
Datguddiad 21:3-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac mi a glywais lef uchel allan o’r nef, yn dywedyd, Wele, y mae pabell Duw gyda dynion, ac efe a drig gyda hwynt, a hwy a fyddant bobl iddo ef, a Duw ei hun a fydd gyda hwynt, ac a fydd yn Dduw iddynt. Ac fe sych Duw ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt; a marwolaeth ni bydd mwyach, na thristwch, na llefain, na phoen ni bydd mwyach: oblegid y pethau cyntaf a aeth heibio.