Datguddiad 21:1-3
Datguddiad 21:1-3 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Yna gwelais nefoedd newydd a daear newydd. Roedd y ddaear a’r awyr gyntaf wedi diflannu. Doedd y môr ddim yn bodoli ddim mwy. Dyma fi’n gweld y ddinas sanctaidd, y Jerwsalem newydd, yn dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd. Roedd yn edrych fel merch ifanc wedi’i gwisgo’n hardd ar gyfer ei phriodas. Wedyn clywais lais o’r orsedd yn cyhoeddi’n glir, “Bellach mae pabell Duw yng nghanol y bobloedd. Bydd yn byw yn eu canol nhw, a byddan nhw’n bobl iddo. Bydd Duw ei hun gyda nhw, a fe fydd eu Duw nhw.
Datguddiad 21:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna gwelais nef newydd a daear newydd; oherwydd yr oedd y nef gyntaf a'r ddaear gyntaf wedi mynd heibio, ac nid oedd môr mwyach. A gwelais y ddinas sanctaidd, Jerwsalem newydd, yn disgyn o'r nef oddi wrth Dduw, wedi ei pharatoi fel priodferch wedi ei thecáu i'w gŵr. Clywais lais uchel o'r orsedd yn dweud, “Wele, y mae preswylfa Duw gyda'r ddynoliaeth; bydd ef yn preswylio gyda hwy, byddant hwy yn bobloedd iddo ef, a bydd Duw ei hun gyda hwy, yn Dduw iddynt.
Datguddiad 21:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac mi a welais nef newydd, a daear newydd: canys y nef gyntaf a’r ddaear gyntaf a aeth heibio; a’r môr nid oedd mwyach. A myfi Ioan a welais y ddinas sanctaidd, Jerwsalem newydd, yn dyfod oddi wrth Dduw i waered o’r nef, wedi ei pharatoi fel priodasferch wedi ei thrwsio i’w gŵr. Ac mi a glywais lef uchel allan o’r nef, yn dywedyd, Wele, y mae pabell Duw gyda dynion, ac efe a drig gyda hwynt, a hwy a fyddant bobl iddo ef, a Duw ei hun a fydd gyda hwynt, ac a fydd yn Dduw iddynt.