Datguddiad 20:7-8
Datguddiad 20:7-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan gyflawner y mil blynyddoedd, gollyngir Satan allan o’i garchar; Ac efe a â allan i dwyllo’r cenhedloedd sydd ym mhedair congl y ddaear, Gog a Magog, i’w casglu hwy ynghyd i ryfel; rhif y rhai sydd fel tywod y môr.
Datguddiad 20:7-8 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Pan fydd y mil o flynyddoedd drosodd bydd Satan yn cael ei ryddhau o’i garchar. Bydd yn mynd allan i bedwar ban byd i dwyllo’r cenhedloedd – Gog a Magog – ac yn eu casglu at ei gilydd i ymladd yn y frwydr. Nifer enfawr ohonyn nhw, fel y tywod ar lan y môr!
Datguddiad 20:7-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan ddaw'r mil blynyddoedd i ben, caiff Satan ei ollwng yn rhydd o'i garchar, a daw allan i dwyllo'r cenhedloedd ym mhedwar ban y byd, sef lluoedd Gog a Magog, a'u casglu ynghyd i ryfel; byddant mor niferus â thywod y môr.