Datguddiad 20:7-15
Datguddiad 20:7-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan ddaw'r mil blynyddoedd i ben, caiff Satan ei ollwng yn rhydd o'i garchar, a daw allan i dwyllo'r cenhedloedd ym mhedwar ban y byd, sef lluoedd Gog a Magog, a'u casglu ynghyd i ryfel; byddant mor niferus â thywod y môr. Cyrchasant dros wyneb y ddaear ac amgylchynu gwersyll y saint a'r ddinas sy'n annwyl gan Dduw. Ond disgynnodd tân o'r nef a'u difa'n llwyr; a bwriwyd y diafol, twyllwr y cenhedloedd, i'r llyn tân a brwmstan, lle mae'r bwystfil hefyd a'r gau broffwyd. Yno cânt eu poenydio ddydd a nos byth bythoedd. Gwelais orsedd fawr wen a'r Un oedd yn eistedd arni, hwnnw y ffoesai'r ddaear a'r nef o'i ŵydd a'u gadael heb le. Gwelais y meirw, yn fawr a bach, yn sefyll o flaen yr orsedd; ac agorwyd llyfrau. Yna agorwyd llyfr arall, sef llyfr y bywyd; a barnwyd y meirw ar sail yr hyn oedd yn ysgrifenedig yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd. Ildiodd y môr y meirw oedd ynddo, ac ildiodd Marwolaeth a Hades y rhai oedd ynddynt hwy, ac fe'u barnwyd, pob un yn ôl ei weithredoedd. Bwriwyd Marwolaeth a Hades i'r llyn tân; dyma'r ail farwolaeth, sef y llyn tân. Pwy bynnag ni chafwyd ei enw'n ysgrifenedig yn llyfr y bywyd, fe'i bwriwyd i'r llyn tân.
Datguddiad 20:7-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan fydd y mil o flynyddoedd drosodd bydd Satan yn cael ei ryddhau o’i garchar. Bydd yn mynd allan i bedwar ban byd i dwyllo’r cenhedloedd – Gog a Magog – ac yn eu casglu at ei gilydd i ymladd yn y frwydr. Nifer enfawr ohonyn nhw, fel y tywod ar lan y môr! Dyma nhw’n martsio o un pen i’r ddaear i’r llall ac yn amgylchynu gwersyll pobl Dduw, sef y ddinas mae Duw yn ei charu. Ond daeth tân i lawr o’r nefoedd a’u dinistrio nhw. A dyma’r diafol oedd wedi’u twyllo nhw yn cael ei daflu i’r llyn tân sy’n llosgi brwmstan, ble roedd yr anghenfil a’r proffwyd ffug wedi cael eu taflu. Byddan nhw’n cael eu poenydio ddydd a nos am byth bythoedd. Yna gwelais orsedd wen fawr a Duw yn eistedd arni. Dyma’r ddaear a’r awyr yn dianc oddi wrtho ac yn diflannu am byth. A dyma fi’n gweld pawb oedd wedi marw, pobl fawr a phobl gyffredin, yn sefyll o flaen yr orsedd. Dyma’r llyfrau amdanyn nhw yn cael eu hagor. Yna agorwyd llyfr arall, sef Llyfr y Bywyd. Cafodd pob un ei farnu am beth roedd wedi’i wneud – roedd popeth amdanyn nhw wedi cael ei gofnodi yn y llyfrau. Dyma’r môr yn rhoi yn ôl y bobl oedd wedi marw ynddo, a dyma Marwolaeth a Byd y Meirw yn rhoi’r bobl oedd ynddyn nhw yn ôl. Yna cafodd pob un ei farnu am beth roedd wedi’i wneud. Wedyn cafodd Marwolaeth a Byd y Meirw eu taflu i’r llyn tân. Y llyn tân ydy’r ‘ail farwolaeth’. Cafodd pob un doedd eu henwau nhw ddim wedi’u hysgrifennu yn Llyfr y Bywyd eu taflu i’r llyn tân.
Datguddiad 20:7-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan gyflawner y mil blynyddoedd, gollyngir Satan allan o’i garchar; Ac efe a â allan i dwyllo’r cenhedloedd sydd ym mhedair congl y ddaear, Gog a Magog, i’w casglu hwy ynghyd i ryfel; rhif y rhai sydd fel tywod y môr. A hwy a aethant i fyny ar led y ddaear, ac a amgylchasant wersyll y saint, a’r ddinas annwyl: a thân a ddaeth oddi wrth Dduw i waered o’r nef, ac a’u hysodd hwynt. A diafol, yr hwn oedd yn eu twyllo hwynt, a fwriwyd i’r llyn o dân a brwmstan, lle y mae’r bwystfil a’r gau broffwyd; a hwy a boenir ddydd a nos, yn oes oesoedd. Ac mi a welais orseddfainc wen fawr, a’r hwn oedd yn eistedd arni, oddi wrth wyneb yr hwn y ffodd y ddaear a’r nef; a lle ni chafwyd iddynt. Ac mi a welais y meirw, fychain a mawrion, yn sefyll gerbron Duw; a’r llyfrau a agorwyd: a llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw llyfr y bywyd: a barnwyd y meirw wrth y pethau oedd wedi eu hysgrifennu yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd. A rhoddodd y môr i fyny y meirw oedd ynddo; a marwolaeth ac uffern a roddasant i fyny y meirw oedd ynddynt hwythau: a hwy a farnwyd bob un yn ôl eu gweithredoedd. A marwolaeth ac uffern a fwriwyd i’r llyn o dân. Hon yw’r ail farwolaeth. A phwy bynnag ni chafwyd wedi ei ysgrifennu yn llyfr y bywyd, bwriwyd ef i’r llyn o dân.