Datguddiad 20:4-6
Datguddiad 20:4-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwelais orseddau, ac yn eistedd arnynt y rhai y rhoddwyd iddynt awdurdod i farnu; gwelais hefyd eneidiau'r rhai a ddienyddiwyd ar gyfrif tystiolaeth Iesu ac ar gyfrif gair Duw. Nid oedd y rhain wedi addoli'r bwystfil, na'i ddelw ef, na chwaith wedi derbyn ei nod ar eu talcen nac ar eu llaw. Daethant yn fyw, a theyrnasu gyda Christ am fil o flynyddoedd. Ni ddaeth gweddill y meirw yn fyw nes i'r mil blynyddoedd ddod i ben. Dyma'r atgyfodiad cyntaf. Gwyn ei fyd a sanctaidd y sawl sydd â rhan yn yr atgyfodiad cyntaf; nid oes gan yr ail farwolaeth awdurdod arnynt, ond byddant yn offeiriaid Duw a Christ, a theyrnasant gydag ef am y mil blynyddoedd.
Datguddiad 20:4-6 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Wedyn gwelais orseddau, a’r rhai oedd wedi cael yr awdurdod i farnu yn eistedd arnyn nhw. A gwelais y rhai oedd wedi cael eu dienyddio am dystio i Iesu ac am gyhoeddi neges Duw yn ffyddlon. Doedd y rhain ddim wedi addoli’r anghenfil na’i ddelw, a doedd ei farc ddim wedi cael ei roi ar eu talcennau a’u dwylo. Dyma nhw’n dod yn fyw ac yn teyrnasu gyda’r Meseia am fil o flynyddoedd. (Wnaeth pawb arall oedd wedi marw ddim dod yn ôl yn fyw nes oedd y mil o flynyddoedd drosodd.) Dyma’r atgyfodiad cyntaf. Mae’r rhai sydd wedi’u neilltuo ac sy’n cael bod yn rhan o’r atgyfodiad cyntaf yma wedi’u bendithio’n fawr! Does gan beth sy’n cael ei alw’n ‘ail farwolaeth’ ddim gafael ynddyn nhw. Byddan nhw’n offeiriaid yn gwasanaethu Duw a’r Meseia, a byddan nhw’n teyrnasu gydag e am fil o flynyddoedd.
Datguddiad 20:4-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac mi a welais orseddfeinciau, a hwy a eisteddasant arnynt, a barn a roed iddynt hwy: ac mi a welais eneidiau’r rhai a dorrwyd eu pennau am dystiolaeth Iesu, ac am air Duw, a’r rhai nid addolasent y bwystfil na’i ddelw ef, ac ni dderbyniasent ei nod ef ar eu talcennau, neu ar eu dwylo; a hwy a fuant fyw ac a deyrnasasant gyda Christ fil o flynyddoedd. Eithr y lleill o’r meirw ni fuant fyw drachefn, nes cyflawni’r mil blynyddoedd. Dyma’r atgyfodiad cyntaf. Gwynfydedig a sanctaidd yw’r hwn sydd â rhan iddo yn yr atgyfodiad cyntaf: y rhai hyn nid oes i’r ail farwolaeth awdurdod arnynt, eithr hwy a fyddant offeiriaid i Dduw ac i Grist, ac a deyrnasant gydag ef fil o flynyddoedd.