Datguddiad 20:13-14
Datguddiad 20:13-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r môr yn rhoi yn ôl y bobl oedd wedi marw ynddo, a dyma Marwolaeth a Byd y Meirw yn rhoi’r bobl oedd ynddyn nhw yn ôl. Yna cafodd pob un ei farnu am beth roedd wedi’i wneud. Wedyn cafodd Marwolaeth a Byd y Meirw eu taflu i’r llyn tân. Y llyn tân ydy’r ‘ail farwolaeth’.
Rhanna
Darllen Datguddiad 20Datguddiad 20:13-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ildiodd y môr y meirw oedd ynddo, ac ildiodd Marwolaeth a Hades y rhai oedd ynddynt hwy, ac fe'u barnwyd, pob un yn ôl ei weithredoedd. Bwriwyd Marwolaeth a Hades i'r llyn tân; dyma'r ail farwolaeth, sef y llyn tân.
Rhanna
Darllen Datguddiad 20Datguddiad 20:13-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A rhoddodd y môr i fyny y meirw oedd ynddo; a marwolaeth ac uffern a roddasant i fyny y meirw oedd ynddynt hwythau: a hwy a farnwyd bob un yn ôl eu gweithredoedd. A marwolaeth ac uffern a fwriwyd i’r llyn o dân. Hon yw’r ail farwolaeth.
Rhanna
Darllen Datguddiad 20