Datguddiad 20:11-15
Datguddiad 20:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwelais orsedd fawr wen a'r Un oedd yn eistedd arni, hwnnw y ffoesai'r ddaear a'r nef o'i ŵydd a'u gadael heb le. Gwelais y meirw, yn fawr a bach, yn sefyll o flaen yr orsedd; ac agorwyd llyfrau. Yna agorwyd llyfr arall, sef llyfr y bywyd; a barnwyd y meirw ar sail yr hyn oedd yn ysgrifenedig yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd. Ildiodd y môr y meirw oedd ynddo, ac ildiodd Marwolaeth a Hades y rhai oedd ynddynt hwy, ac fe'u barnwyd, pob un yn ôl ei weithredoedd. Bwriwyd Marwolaeth a Hades i'r llyn tân; dyma'r ail farwolaeth, sef y llyn tân. Pwy bynnag ni chafwyd ei enw'n ysgrifenedig yn llyfr y bywyd, fe'i bwriwyd i'r llyn tân.
Datguddiad 20:11-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna gwelais orsedd wen fawr a Duw yn eistedd arni. Dyma’r ddaear a’r awyr yn dianc oddi wrtho ac yn diflannu am byth. A dyma fi’n gweld pawb oedd wedi marw, pobl fawr a phobl gyffredin, yn sefyll o flaen yr orsedd. Dyma’r llyfrau amdanyn nhw yn cael eu hagor. Yna agorwyd llyfr arall, sef Llyfr y Bywyd. Cafodd pob un ei farnu am beth roedd wedi’i wneud – roedd popeth amdanyn nhw wedi cael ei gofnodi yn y llyfrau. Dyma’r môr yn rhoi yn ôl y bobl oedd wedi marw ynddo, a dyma Marwolaeth a Byd y Meirw yn rhoi’r bobl oedd ynddyn nhw yn ôl. Yna cafodd pob un ei farnu am beth roedd wedi’i wneud. Wedyn cafodd Marwolaeth a Byd y Meirw eu taflu i’r llyn tân. Y llyn tân ydy’r ‘ail farwolaeth’. Cafodd pob un doedd eu henwau nhw ddim wedi’u hysgrifennu yn Llyfr y Bywyd eu taflu i’r llyn tân.
Datguddiad 20:11-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac mi a welais orseddfainc wen fawr, a’r hwn oedd yn eistedd arni, oddi wrth wyneb yr hwn y ffodd y ddaear a’r nef; a lle ni chafwyd iddynt. Ac mi a welais y meirw, fychain a mawrion, yn sefyll gerbron Duw; a’r llyfrau a agorwyd: a llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw llyfr y bywyd: a barnwyd y meirw wrth y pethau oedd wedi eu hysgrifennu yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd. A rhoddodd y môr i fyny y meirw oedd ynddo; a marwolaeth ac uffern a roddasant i fyny y meirw oedd ynddynt hwythau: a hwy a farnwyd bob un yn ôl eu gweithredoedd. A marwolaeth ac uffern a fwriwyd i’r llyn o dân. Hon yw’r ail farwolaeth. A phwy bynnag ni chafwyd wedi ei ysgrifennu yn llyfr y bywyd, bwriwyd ef i’r llyn o dân.