Datguddiad 2:20-23
Datguddiad 2:20-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Er hynny, mae gen i rywbeth yn dy erbyn di: Rwyt ti’n goddef y wraig yna, y “Jesebel” sy’n galw’i hun yn broffwydes. Mae hi’n dysgu pethau sy’n camarwain y rhai sy’n fy ngwasanaethu i. Mae hi’n eu hannog nhw i bechu’n rhywiol a bwyta bwyd sydd wedi’i aberthu i eilun-dduwiau. Dw i wedi rhoi cyfle iddi hi droi cefn ar y drwg, ond mae hi’n gwrthod. Felly dw i’n mynd i wneud iddi ddioddef o afiechyd poenus, a bydd y rhai sy’n godinebu gyda hi yn dioddef hefyd os fyddan nhw ddim yn stopio gwneud beth mae hi’n ei ddweud. Bydda i’n lladd ei dilynwyr hi, ac wedyn bydd yr eglwysi yn gwybod mai fi ydy’r Un sy’n gweld beth sydd yng nghalonnau a meddyliau pobl. Bydd pob un ohonoch chi yn cael beth mae’n ei haeddu.
Datguddiad 2:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond y mae gennyf hyn yn dy erbyn, dy fod yn goddef y wraig honno, Jesebel, sy'n ei galw ei hun yn broffwydes, a hithau'n dysgu ac yn twyllo fy ngweision i buteinio a bwyta pethau a aberthwyd i eilunod. Rhoddais amser iddi i edifarhau, ond y mae'n gwrthod edifarhau am ei phuteindra. Wele, bwriaf hi i wely cystudd, a'r rhai sy'n godinebu gyda hi i orthrymder mawr, os nad edifarhânt am ei gweithredoedd hi. A lladdaf ei phlant hi yn gelain; ac fe gaiff yr holl eglwysi wybod mai myfi yw'r hwn sy'n chwilio meddyliau a chalonnau. Rhoddaf i chwi bob un yn ôl eich gweithredoedd.
Datguddiad 2:20-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn, oblegid dy fod yn gadael i’r wraig honno Jesebel, yr hon sydd yn ei galw ei hun yn broffwydes, ddysgu a thwyllo fy ngwasanaethwyr i odinebu, ac i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod. Ac mi a roddais iddi amser i edifarhau am ei godineb; ac nid edifarhaodd hi. Wele, yr wyf fi yn ei bwrw hi ar wely, a’r rhai sydd yn godinebu gyda hi, i gystudd mawr, onid edifarhânt am eu gweithredoedd. A’i phlant hi a laddaf â marwolaeth: a’r holl eglwysi a gânt wybod mai myfi yw’r hwn sydd yn chwilio’r arennau a’r calonnau: ac mi a roddaf i bob un ohonoch yn ôl eich gweithredoedd.